Pro 12: Dreigiau yn curo, Gleision yn colli

Dreigiau 23 - 16 Sgarlets

Mae'r Dreigiau wedi curo'r Sgarlets mewn gêm hynod gyffrous yn Rodney Parade, am y tro cyntaf ers tro maith.

Rhoddodd geisiau gan Phil Price a Dan Evans (o'r Sgarlets gynt) y tîm cartref ar y blaen 17-3.

Daeth cicio Rhys Priestland a chais gan Scott Williams a'r Sgarlets yn ôl fewn i'r gêm.

Ond ofer fu eu hymdrechion yn y pen draw a bydd y Dreigiau wrth eu boddau i fod wedi rhoi terfyn i'w record gwael diweddar yn erbyn eu cymdogion.

Timau

Dreigiau: Dan Evans, Tom Prydie, Ross Wardle, Jack Dixon, Hallam Amos, Jason Tovey, Richie Rees; Phil Price, Rhys Thomas, Francisco Chaparro, Andrew Coombs (capten), Matthew Screech, Jevon Groves, Lewis Evans, Toby Faletau.

Eilyddion: Hugh Gustafson, Owen Evans, Dan Way, Rob Sidoli, Netani Talei, Jonathan Evans, Kris Burton, Adam Hughes.

Sgarlets: Gareth Owen; Liam Williams, Jon Davies, Scott Williams, Jordan Williams; Rhys Priestland, Gareth Davies; Phil John, Ken Owens, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Aaron Shingler, Rob McCusker (capten), John Barclay.

Eilyddion: Emyr Phillips, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Richard Kelly, Josh Turnbull, Aled Davies, Nic Reynolds, Aled Thomas.

Gleision Caerdydd 25 - 30 Zebre

Mae'r Gleision wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf i golli yn erbyn Zebre - a hynny ar eu tomen eu hunain.

Rhoddodd Dafydd Hewitt y tîm cartref ar y blaen ond fe frwydrodd yr Eidalwyr yn ol, gyda cheisiau gan Mauro Bergamasco a David Odiete.

Roedd cicio Leigh Halfpenny mor gywir ac arfer ond ni lwyddodd i wneud digon i atal buddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Cais gan Brendon Leonard wnaeth y gêm yn ddiogel iddyn nhw.

Timau:

Gleision: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Owen Williams, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj; Rhys Patchell, Lewis Jones; Taufa'ao Filise, Marc Breeze, Scott Andrews, Lou Reed, Filo Paulo, Macauley Cook, Josh Navidi, Andries Pretorius (capten).

Eilyddion: Matthew Rees, Sam Hobbs, Benoit Bourrust, James Down, Robin Copeland, Lloyd Williams, Gareth Davies, Cory Allen.

Zebre: Ruggero Trevisan; David Odiete, Tommaso Iannone, Matteo Pratichetti, Dion Berryman; Luciano Orquera, Brendon Leonard; Salvatore Perugini, Andrea Manici, Dario Chistolini, Quintin Geldenhuys, Marco Bortolami (capten), Mauro Bergamasco, Andries van Schalkwyk, Samuela Vunisa.

Eilyddion: Tommaso D'Apice, Matias Aguero, Luca Redolfini, George Biagi, Filippo Ferrarini, Guglielmo Palazzani, Giovanbattista Venditti, Leonardo Sarto.