Llafur am i gorff fwrw golwg ar gostau cynlluniau

  • 23 Medi 2013
Ed Balls
Ed Balls: Angen dangos i'r etholwyr fod modd talu am gynlluniau gwariant.

Mae'r Blaid Lafur am ofyn i gorff annibynnol sy'n goruchwylio gwariant y llywodraeth edrych ar eu maniffesto cyn yr etholiad cyffredinol.

Yng nghynhadledd y blaid yn Brighton dywedodd Canghellor yr Wrthblaid Ed Balls fod angen gwneud hyn er mwyn dangos i'r etholwyr eu bod nhw'n gallu talu am eu cynlluniau gwariant.

Mae wedi gofyn i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol adolygu costau eu cynlluniau.

Cylch gwaith

Dywedodd ffynonellau yn y blaid eu bod yn gobeithio newid cylch gwaith y corff fel bod modd iddyn nhw gyflawni'r dasg.

Yn ôl Andrew Tyrie, cadeirydd Ceidwadol Pwyllgor Dethol y Trysorlys: "Os yw hyn yn cael ei wneud yn ofalus, fe allai wella safon dadlau yn ystod yr etholiad."

Ond dywedodd Gweinidog y Trysorlys Sajid Javid fod cais Llafur i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn "ddyfais i dynnu sylw pobl rhag y ffaith bod addewidion Llafur heb eu hariannu."

Ynghynt dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wrth BBC Cymru fod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gwneud "gwaith ardderchog" wrth sicrhau fod y Gwasanaeth Iechyd gystal ag y gallai fod, o fewn cyfyngiadau gwariant llywodraeth San Steffan.

Ychwanegodd mai "lol" fyddai derbyn cyngor oddi wrth y Prif Weinidog David Cameron ynglŷn â'r polisïau sy'n cael eu dilyn yn Lloegr.

Mae Mr Cameron wedi beirniadu record Llafur yng Nghymru gan gyfeirio am amseroedd aros am driniaeth ac ymateb y gwasanaeth ambiwlans i dargedau penodol.

Mae Mr Cameron yn aml yn defnyddio record y blaid lafur fel modd o ymosod ar Ed Miliband yn ystod y sesiwn gwestiynau wythnosol yn San Steffan.

Safonau

Ond yn ei gyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd Mr Miliband fod Carwyn Jones yn gwneud popeth posib i godi safonau.

"Mae'n bwysig iawn cofio fod tua 40% o gyllid Cymru yn cael ei wario ar iechyd.

"Rydym wedi gweld toriadau mawr yn yr arian sy'n dod o San Steffan ac yng nghyd-destun hyn rwy'n credu fod Carwyn yn gwneud gwaith gwych wrth gynnal safonau yn y Gwasanaeth Iechyd.

Ers i Mr Jones gymryd yr awenau bedair blynedd yn ôl mae nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ysbyty wedi codi o 227,000 i 416,000.

Ac yn ddiweddar fe wnaeth adroddiad gan yr Archwiliwr Cyffredinol ddweud fod dirywiad wedi bod mewn gwasanaethau fel y gwasanaeth brys yng Nghymru.

Dywedodd Mr Miliband ei fod yn cydnabod fod yna her yn wynebu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Ond y realiti yw bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei reoli gan lywodraeth San Steffan ac mae'r gyllideb wedi ei thorri yn sylweddol.

"Felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymdopi gydag effaith hynny."