Addysg: Tro pedol Cyngor Caerdydd

  • 23 Medi 2013
Rali TAG
Roedd ymgyrchwyr o blaid addysg Gymraeg mewn rali ddydd Sadwrn y tu allan i Neuadd y Ddinas

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi dileu penderfyniad blaenorol ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg yn ne'r ddinas.

Y penderfyniad blaenorol oedd ymgynghori ymhellach i ymestyn y ddarpariaeth yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn Lecwydd yn hytrach na chodi ysgol Gymraeg newydd yn ardal Grangetown.

Yn ôl mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, roedd hynny'n groes i addewid y Cyngor.

Yng nghyfarfod y cabinet ddydd Mawrth cafodd y penderfyniad gwreiddiol ei ddileu yn unol ag argymhelliad y Cynghorydd Julia Magill, yr Aelod â chyfrifoldeb am Addysg Gydol Oes.

Pasiwyd penderfyniad arall, sef awdurdodi paratoi adroddiad i'r cabinet am argymhellion newydd i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a lleoedd ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn ardaloedd Trebiwt, Treganna, Grangetown a Glan-yr-afon.