Wrecsam 2-3 Braintree Town

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Fe gafodd Wrecsam ddechrau echrydus i'r gêm wrth i Mark Carrington roi'r bêl yn ei rwyd ei hun wedi dim ond tri munud o chwarae.

Aeth pethau'n waeth wedi 21 munud pan sgoriodd Dean Wells ail gôl i'r ymwelwyr.

Ond fel yr oedd hi'n ymddangos y byddai tymor Wrecsam yn mynd o ddrwg i waeth, fe ddechreuodd yr adfywiad.

Johnny Hunt arweiniodd hynny drwy sgorio wedi 29 munud i roi gobaith i dîm Andy Morrell.

Bum munud yn ddiweddarach ac roedd Wrecsam yn gyfartal - Jay Harris yn sgorio'r ail.

Ugain munud cyn y diwedd aeth yr ymwelwyr ar y blaen unwaith eto, ond un o chwaraewyr Wrecsam a rwydodd eto.

Steve Tomassen oedd y dyn anlwcus y tro hwn, ond roedd yna gryn ddadlau am y gôl gydag enwau Neil Ashton a Joe Clarke yn mynd i lyfr y dyfanwr.

Doedd dim mwy o goliau, ac mae Wrecsam bellach yn 18fed yn y tabl ar ôl colli am y chweched tro y tymor hwn.