Birmingham 3-1 Abertawe

Abertawe'n dathlu ennill Cwpan Capital One yn 2013 Image copyright Getty Images
Image caption Abertawe'n dathlu ennill Cwpan Capital One yn 2013 - fydd dim dathlu yn 2014

Mae Abertawe - y deiliaid - allan o Gwpan Capital One ar y cynnig cyntaf y tymor hwn wrth golli yn erbyn Birmingham.

Fe wnaeth rheolwr Abertawe Michael Laudrup ddeg newid i'w dîm wrth i'r Elyrch ddechrau amddiffyn y Cwpan nos Fercher.

Roedd hynny'n adlewyrchu blaenoriaethau'r clwb wrth iddyn nhw geisio cystadlu yn Uwchgynghrair Lloegr a Chynghrair Europa am y tro cyntaf y tymor hwn.

Er nad yw Birmingham wedi cael dechrau da i'w tymor nhw yn y Bencampwriaeth, y tîm cartref aeth ar y blaen.

Daeth gôl Dan Burn wedi 57 munud ac yn erbyn llif y chwarae i fod yn onest, ond fe arweiniodd at gyfnod pan gollodd yr Elyrch eu ffordd.

Yn wir fe aeth yr un yn ddwy o fewn pedwar munud wrth i Matt Green orffen symudiad hyfryd.

Birmingham oedd enillwyr y gwpan yn 2011 trwy guro Arsenal yn y rownd derfynol yn Wembley ddwy flynedd cyn i Abertawe guro Bradford yn ffeinal eleni.

Ymateb Laudrup oedd dod ag eilyddion i'r maes, ond er i Abertawe wedi greu ambell gyfle, roedd amddiffyn Birmingham yn gadarn.

Ond wrth geisio ymosod roedd Abertawe'n gadael bylchau yn y cefn a naw munud cyn ddiwedd y gêm daeth y drydedd i Birmingham wrth i Tom Adeyemi rwydo.

Halen ar y briw i'r Elyrch oedd mai cyn chwaraewr Caerdydd, Chris Burke, greodd y gôl.

Fe ddaeth gôl gysur i Abertawe wrth i Wilfried Bony rwydo yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau.

Ond enw Birmingham fydd yn y bedwaredd rownd yn y gystadleuaeth.