Gwario £10 miliwn ar gynlluniau iechyd aflwyddiannus

Person gordew Image copyright PA
Image caption Dywedodd yr arbenigwyr bod hi'n anhebygol bod cynllun gordewdra wedi gweithio

Cafodd £10 miliwn ei wario'r llynedd ar gynlluniau iechyd oedd wedi dod a dim, neu ychydig iawn, o fuddion iechyd i'r cyhoedd.

Mae BBC Cymru wedi darganfod bod yr arian wedi ei wario ar 19 o gynlluniau iechyd cyhoeddus nad oedd wedi bod yn llwyddiannus.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru, y corff sy'n rhannu'r arian bod angen gweithredu ar frys i daclo'r anghyfartaledd o ran iechyd sydd yn bodoli yng Nghymru, ond maent yn cydnabod bod angen gweithredu yn wahanol yn y dyfodol.

Maent yn credu bod angen darparu rhaglen benodol i hyrwyddo newid o ran arferion iechyd pobl yn gyflym.

Arbenigwyr yn craffu

Fe aeth arbenigwyr ati i werthuso pa mor effeithiol oedd y 25 o gynlluniau iechyd newydd sydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd yr arbenigwyr yn gwneud y gwaith ar ran y corff iechyd a daethant i'r casgliad fod hi yn annhebygol bod 10 o'r cynlluniau yn dod ac unrhyw fudd iechyd i'r cyhoedd.

Roedd y panel yn argymell dylid stopio rhoi arian yn gyfan gwbl i 7 o'r 25 cynllun ac yn dweud na ddylid ail buddsoddi yn unrhyw un o'r 25 cynllun iechyd oedd yn cael eu hadolygu.

Cafodd casgliadau'r tîm eu cyhoeddi mewn adroddiad drafft a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau.

Bws coginio

Un o'r cynlluniau ddaeth dan y lach oedd y bws coginio. Lori oedd hon oedd gyda chegin tu fewn iddi ac roedd yn teithio o gwmpas ysgolion a chymunedau yn dysgu pobl ifanc sut i goginio.

Roedd nawdd o £655,000 wedi ei rhoi er mwyn ariannu'r bws coginio yn 2012/13.

Rhai o'r cynlluniau eraill oedd yr arbenigwyr yn dweud nad oedd wedi dod a budd iechyd oedd cynllun codi ymwybyddiaeth o ganser y croen ac un i daclo gordewdra.

Image caption Mae'r bws coginio yn hyrwyddo coginio a bwyta'n iach mewn ysgolion

Cwestiynau i'w hateb

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar bod yna gwestiynau i'w gofyn pan fo arian yn brin:

"Mae bob un bunt yn cyfri ac mae gwario miliynau ar gynlluniau gwirion fel y bws coginio, wel dw i'n credu bydd y cyhoedd, a hynny yn hollol deg, yn holi beth yn union mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gyda'i harian?"

Roedd yr adroddiad hefyd yn son am nifer o gynlluniau iechyd oedd yn gweithio yn dda megis cynllun Atal Ysmygu ac un cenedlaethol i annog mamau i fwydo ar y fron.

Yn ôl Dr Patricia Riordan, Cyfarwyddwr Iechyd a gwella iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru maent wedi dechrau edrych ar y materion oedd yn codi yn yr adroddiad:

"Dw i'n credu bod e yn achos o bryder pan rydych chi yn dod yn ymwybodol trwy'r dystiolaeth fod eich adnoddau ddim yn cael eu targedu yn y llefydd cywir.

"Dyna ydw i yn ei ddweud- mae'n rhaid i ni ail gyfeirio'r adnoddau yma i raglenni rydyn ni yn gwybod sydd yn llwyddo. Yr hyn rydyn ni yn gwneud heddiw yw cydnabod bod angen i ni wneud pethau yn wahanol."

Mae'n dweud y bydd bob cynllun iechyd yn cael ei fonitro o hyn ymlaen er mwyn gwerthuso pa mor effeithiol ydyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn bod angen newidiadau. Mewn datganiad dywedodd y Llywodraeth: "Rydyn ni yn croesawu yr adolygiad helaeth i'r cynlluniau iechyd cyhoeddus.

"Mae'n anghenrheidiol mewn cyfnod pan fo'r gyllideb wedi ei chyfyngu ein bod ni yn defnyddio ein harian yn gall a bod buddsoddi mewn cynlluniau iechyd cyhoeddus yn dod a budd go iawn i iechyd pobl.

"Rydyn ni yn edrych ymlaen at weld cynnigion Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer cynlluniau iechyd ar eu newydd wedd."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.