Dim chwarae yn erbyn Sir Gaerloyw

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Penderfynnodd y dyfarnwyr ddirwyn y trydydd diwrnod o'r gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd rhwng Morgannwg a Sir Gaerloyw i ben heb i'r un belen gael ei bowlio.

Yn eu batiad cynta' cafodd yr ymwelwyr 275 wrth i Dent sgorio cyfanswm o 84.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod roedd Morgannwg wedi taro'n ôl gan sgorio 271 am 9 wiced, gan gynnwys 85 i Allenby.

Gan nad yw'r rhagolygon tywydd yn rhy dda ar gyfer dydd Gwener chwaith, mae'n bur debyg mai gêm gyfartal fydd hi yng ngornest olaf y tymor i Forgannwg.