Leinster 34-20 Gleision Caerdydd

Sam Warburton Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Sam Warburton yn ôl yn chwarae a hynny wedi anaf

Colli oedd hanes y Gleision yn erbyn Lenister yn y Pro 12 nos Wener ond mi oedd ei perfformiad yn un dewr.

Roedd y tim yn chwarae yn Nulyn ac hon oedd gêm gyntaf Sam Warburton ers iddo gael anaf.

Cafwyd perfformiadau unigol da gan y Gleision gyda Alex Cuthbert yn sgorio cais trawiadol a Cory Allen hefyd yn croesi.

Ond fe sgoriodd Leinster bedair cais a nhw oedd y tim cryfaf.

Straeon perthnasol