Abertawe-1-2 Arsenal

Aaron Ramsey scores for Arsenal at Swansea Image copyright Reuters
Image caption Sgoriodd Aaron Ramsey yn ystod y gêm

Abertawe-1-2 Arsenal

Arsenal oedd yn dathlu nos Sadwrn wedi iddyn nhw gipio buddugoliaeth yn erbyn yr Elyrch a hynny yn Stadiwm Liberty.

Doedd dim goliau yn yr hanner cyntaf a dim ond unwaith y gwelwyd Abertawe yn bygwth gyda chic bell gan Jonjo Shelvey.

Ond daeth y gôl gyntaf gan yr Almaenwr 18 oed Serge Gnabry i Arsenal yn yr ail hanner a'r ail gan Aaron Ramsey.

Er i'r cefnogwyr adref ddangos eu gwrthwynebiad at y Cymro wnaeth hynny ddim effeithio ar ei chwarae ac mae o bellach wedi sgorio gôl ymhob un o'r wyth o gemau diweddar y mae o wedi chwarae ynddyn nhw ar gyfer ei glwb.

Daeth gol i Abertawe gan Ben Davies a hynny ddeng munud cyn y chwiban olaf. Roedd Abertawe eisiau sgôr cyfartal ond llwyddodd tîm Arsene Wenger i ddal gafael ac i ennill y gêm.

Maen nhw ar frig y tabl ac wedi cynyddu'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw a'r timau eraill ar y brig.