Y Gwyddelod a'r Cymry yn dathlu

Dan Biggar Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Dan Biggar gêm dda

Connacht 26-43 Gweilch

Mae'r Gweilch yn dathlu wedi iddyn nhw guro'r Gwyddelod yn Galway.

Roedd hi'n gêm lle cafwyd llwyth o geisiau gyda Danie Poolman ac Eion Griffin yn croesi i'r tîm cartref yn yr ail hanner. Ond cafwyd chwech o geisiau gan y Gweilch, tri ohonynt o fewn hanner awr gyntaf y gêm.

Dan Biggar gafodd y cais gyntaf ac mi chwaraeodd rhan allweddol yn ystod y gêm.

Daeth dau arall i'r Gweilch ond doedd hi ddim ar ben i Connacht erbyn yr hanner am eu bod wedi llwyddo gyda chiciau cosb.

Er i'r Gwyddelod daro nôl yn yr ail hanner daeth mwy o geisiau gan y Gweilch gyda cheisiau gan Tito Tebaldi, Jeff Hasler a'r capten Alun-Wyn Jones.

Image copyright Inpho
Image caption Dau gais ar gafwyd yn ystod y gêm gan chwaraewyr Munster

Munster 23-9 Dreigiau

Doedd dim gymaint o gyffro yn y gêm rhwng Munster a'r Dreigiau. Ddaeth na ddim un cais gan y tîm o Gymru gyda'r pwyntiau i gyd yn dod o giciau cosb.

James Cronin gafodd gais i Munster a daeth gweddill y pwyntiau gan JJ Hanrahan yn ystod yr hanner cyntaf.

Llwyddodd Kris Burton i ychwanegu at sgôr y Gweilch ar ddechrau'r ail hanner gan leihau'r bwlch rhwng y ddau dîm.

Ond anfonwyd dau o chwaraewyr y clwb o Gymru i'r cell cosb sef Andrew Coombs a Jevon Groves gan achosi bob math o drafferthion i'r tîm.

Daeth cais arall i Connacht gan Peter O'Mahony ac er y bu yn rhaid i Munster amddiffyn wrth i'r Dreigiau bwyso am bwynt ychwanegol ar ddiwedd y gêm ofer fu'r ymdrechion.