Damwain yng Nghefn Hengoed: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Mae gyrrwr 29 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wedi i gar daro dyn 18 oed.

Dywedodd yr heddlu fod y cerddwr wedi marw yn yr ysbyty wedi'r ddamwain yng Nghefn Hengoed, Caerffili, toc cyn un y bore ddydd Sadwrn.

Cafodd y gyrrwr, dyn lleol, ei arestio ar amheuaeth o yrru yn beryglus.

Mae'r heddlu'n chwilio am dystion neu unrhywun â gwybodaeth am BMW Compact yn Hengoed Crescent ddydd Sadwrn.

Dylid ffonio 101 a rhoi'r rhif cyfeirnod 263 28/9/13.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.