Teyrnged i gerddwr a fu farw mewn damwain ger Caerffili

Mae teulu dyn a gafodd ei ladd mewn damwain ffordd wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Gerwyn Allan Osborne-Flanagan, 18, o Gefn Hengoed, ei daro wrth iddo gerdded yng Nghefn Hengoed, Caerffili, ychydig cyn 1:00yb ddydd Sadwrn, Medi 28.

Dywedodd ei deulu: "Roedd Gerwyn yn werth y byd, yn hollol unigryw ac mae ei fam a'i dad mor falch ohono.

"Mae calonnau ei ffrindiau a'i deulu wedi'u torri gan y drasiedi hon ac rydym yn ei golli'n ofnadwy. Ar hyn o bryd hoffai ei deulu amser a llonydd i alaru."

Cafodd gyrrwr 29 oed ei arestio wedi'r digwyddiad ond mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio.

Mae'r heddlu'n chwilio am dystion neu unrhyw un â gwybodaeth am BMW Compact yn Hengoed Crescent ddydd Sadwrn.

Dylid ffonio 101 a rhoi'r rhif cyfeirnod 263 28/9/13.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.