Angen ateb 'ymarferol' i ffrae sillafu

Carwyn Jones
Image caption Roedd Carwyn Jones yn ateb cwestiynau ar lawr y siambr

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi galw am ymateb "ymarferol a phragmataidd" i'r ffrae am sillafu enw pentre' yn Nhorfaen.

Yr enw ar arwyddion yw Varteg.

Yn ddiweddar, mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Meri Huws wedi galw am ychwanegu'r sillafiad Cymraeg.

Mae rhai trigolion wedi dweud eu bod yn poeni y gallai'r enw hwnnw gael ei gamddehongli.

Drwgdeimlad

Fe gyhuddodd Aelod Cynulliad Torfaen, Lynne Neagle, y comisiynydd o achosi drwgdeimlad rhwng siaradwyr Cymraeg a phobl ddi-Gymraeg yn yr ardal.

"Rhaid bod yn ymarferol am y pethau hyn ...," meddai'r Prif Weinidog.

"Rwy'n credu mai'r realiti yw mai gwlad ddwyieithog yw hon ac mae'n rhaid i ni fod yn ofalus oherwydd ei bod yn bosib camddehongli rhai sillafiadau.

"Rwy'n credu y byddai'r etholwyr yn gwerthfawrogi ymateb ymarferol."

Mae llefarydd ar ran y comisiynydd wedi dweud bod cyfarfod yn cael ei drefnu rhwng Ms Huws ac AC Torfaen.

Straeon perthnasol