Hogan yw chwaraewr y flwyddyn

Michael Hogan Image copyright Getty Images
Image caption Cipiodd Michael Hogan 103 o wicedi i Forgannwg ymhob ffurf o griced y tymor hwn

Cafodd Michael Hogan ei enwi fel chwaraewr y flwyddyn i Forgannwg yng nghinio gwobrwyo blynyddol y clwb.

Enillodd Hogan y wobr wedi i'r bowliwr cyflym 32 oed gipio 103 o wicedi ymhob ffurf o griced yn ystod y tymor, gan gynnwys 67 ym Mhencampwriaeth y Siroedd ac 28 wrth i Forgannwg gyrraedd rownd derfynol y YB40.

Mae'r dyn o Awstralia hefyd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr chwaraewr y flwyddyn gan y Gymdeithas Cricedwyr Proffesiynol (PCA).

Dywedodd Hogan: "Rwyf wedi mwynhau fy nhymor, ond fe fyddwn i'n barod i gyfnewid y wobr am fod wedi ennill yn Lord's (YB40)."

100 wiced

Collodd Morgannwg i Sir Nottingham yn y rownd derfynol o 87 o rediadau.

Hogan yw'r bowliwr cyntaf o Forgannwg i gipio dros 100 wiced mewn tymor ers i Michael Kasprowicz gipio 105 yn 2003.

Mae ei enw ar y rhestr fer am wobr y PCA gyda Moeen Ali o Sir Gaerwrangon, Samit Patel o Sir Nottingham a Graham Onions o Durham.

Y chwaraewr amryddawn Jim Allenby gafodd ei enwi fel chwaraewr gorau gemau undydd y tymor i Forgannwg - yr ail flwyddyn yn olynol iddo ennill.

Roedd Allenby hefyd yn bedwerydd ar y rhestr o chwaraewr mwyaf gwerthfawr y tymor ymhob sir ar dabl ystadegau sy'n mesur effeithiolrwydd pob chwaraewr o bob sir.

Murray Goodwin gafodd y wobr am chwaraewr gorau'r Bencampwriaeth i Forgannwg wedi iddo sgorio 1,263 o rediadau, a'r troellwr Andrew Salter gipiodd y wobr am chwaraewr ifanc y flwyddyn.