Damwain: Enwi'r dyn a fu farw

Kevin Wolfe Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Bu farw Kevin Wolfe yn y gwrthdrawiad

Mae dyn a gafodd ei ladd mewn damwain yn ystod y penwythnos wedi ei enwi fel Kevin Wolfe.

Roedd y tad 47 oed mewn car Ford Focus glas pan wnaeth o daro mewn i siop ar Stryd Walters yng Ngwm Ogwr ym Mhen y Bont am 2 am fore Sul.

Wrth dalu teyrnged iddo dywedodd ei deulu: "Roedd Kevin yn bartner cariadus i Carol ac yn dad, mab, taid, brawd ac ewythr aruthrol. Mi fydd pawb oedd yn ei adnabod wedi eu difrodi i glywed y newyddion.

"Os oedd unrhyw un yn ben isel roedd gan Kevin y ddawn i godi'u calonnau am ei fod yn medru gwneud i bobl chwerthin. Mae pobl Cwm Ogwr wedi colli un o'u cymeriadau."

Mae'r heddlu yn awyddus i ddarganfod tacsi gwyn oedd hefyd yn gyd deithio gyda char glas Ford Focus a Vauxhall Zafira glas.

Credir bod y gyrrwr tacsi wedi pasio'r ddau gar arall wrth ymyl y Fynwent ger Parc-Yr-Awel. Mae swyddogion eisiau siarad gyda'r gyrrwr ac unrhyw un arall oedd yn y tacsi.

Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad ac sydd ddim eto wedi cysylltu gyda'r heddlu i wneud hynny trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111 gan roi'r rhif cyfeirnod 62 13 0306687.

Straeon perthnasol