Estyniad i gytundeb trenau

Trên First Great Western
Image caption Bydd First Great Western yn gyfrifol am y gwasanaeth hyd at fis Medi 2015

Mae First Great Western wedi derbyn estyniad o ddwy flynedd i'w cytundeb i redeg gwasanaethau trenau, gan gynnwys rhai yng Nghymru.

Bydd y cwmni nawr yn gyfrifol am y gwasanaeth tan fis Medi 2015 yn dilyn cyhoeddiad yr Adran Drafnidiaeth.

Golygai hyn na fydd penderfyniad tymor hir ynglŷn â phwy fydd yn rhedeg y llinell yn cael ei wneud tan wedi'r Etholiad Cyffredinol nesaf.

Y disgwyl oedd y byddai'r cwmni, sy'n rhan o FirstGroup, yn derbyn estyniad tan Orffennaf 2016.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin y byddai'r penderfyniad yn arwain at well cysylltiad rhyngrwyd di-wifr yn ogystal â chynydd yn y nifer o seddau cyffredin ar drenau, a llai o rhai dosbarth cyntaf ar gael.

Fe wnaeth penderfyniad Llywodraeth y DU i roi cytundeb ar gyfer rhedeg Prif Linell Arfordir y Gorllewin i First Group achosi cryn ddadlau, wedi i gwmni Virgin ei herio.

Oherwydd hyn mae oedi wedi bod mewn gwobrwyo rhyddfreiniau tymor hir.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.