Dyn yn gwadu llofruddio Georgia Williams

Georgia Williams
Image caption Cafodd corff Georgia ei ddarganfod pum niwrnod ar ôl iddi fynd ar goll

Mae dyn wedi pledio yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddio Georgia Williams ym mis Mai.

Yn Llys y Goron Birmingham, gwadodd Jamie Reynolds, 22, o Wellington yn Sir Amwythig iddo lofruddio'r ferch 17 oed o Sir Amwythig.

Bydd Mr Reynolds yn wynebu achos llys ym mis Rhagfyr, yn Llys y Goron Stafford.

Cafodd Georgia Williams ei gweld am y tro diwethaf ar Fai 26, pan ddywedodd ei bod yn mynd i gwrdd â ffrind.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod mewn coedwig ar fwlch Nant-y-Garth rhwng Wrecsam a Rhuthun pum niwrnod yn ddiweddarach.

Straeon perthnasol