Edinburgh yn aros gyda Chasnewydd

Justin Edinburgh on the sidelines with Newport County. Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Daeth Justin Edinburgh i Gasnewydd bron dwy flynedd yn ôl

Mae rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd wedi arwyddo cytundeb newydd i'w gadw ar faes Rodney Parade tan 2016.

Justin Edinburgh olynodd Anthony Hudson yn y swydd yn Hydref 2011.

Mae cyn gefnwr Tottenham Hotspur wedi arwain Casnewydd i rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley ac wedi eu harwain i ddyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed wedi bwlch o 25 mlynedd.

Daw cytundeb presennol Edinburgh i ben ddiwedd y tymor.

Bron dwy flynedd ers ei benodi mae Casnewydd o fewn trwch blewyn i safleoedd y gemau ail gyfle yn Adran 2.

Oherwydd ei lwyddiant mae enw Edinburgh wedi cael ei gysylltu gyda sawl swydd rheolwr ac fe fydd Casnewydd yn falch iawn o sicrhau y bydd yn aros gyda'r clwb.