Iechyd: 'Sefyllfa yn gwella'

David Sissling
Image caption Dywed David Sissling bod y gwasanaeth iechyd yn "gwella yn gyflym"

Mae prif weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn mynnu bod y gwasanaeth yn "gwneud cynnydd" ac yn "gwella yn gyflym" a hynny wedi blwyddyn o broblemau.

Er hynny mae David Sissling hefyd yn dweud ei fod eisiau gweld mwy o newidiadau ar draws yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru.

Ym mis Awst roedd gan Lywodraeth Cymru "bryderon cynyddol" am berfformiad yr holl fyrddau iechyd o ran darparu gofal brys a'r oedi ynghylch rhoi triniaeth mewn ysbytai i bobl.

Roedd yna hefyd bryderon cynyddol am berfformiad pump o'r chwech bwrdd sydd ag ysbytai mawr ynglŷn â pha mor hawdd oedd hi i gleifion gael triniaethau canser.

Gwelliannau

Mewn rhai achosion roedd y pryderon hynny wedi codi i'r lefel uchaf ond un - lefel sydd yn cael ei alw o fewn y maes yn E3 sydd yn golygu "methiant parhaol".

Roedd bwrdd iechyd Abertawe a'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi cyrraedd y lefel yma o ran gofal heb ei drefnu, bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro o ran atgyfeirio ar gyfer triniaeth a Chwm Taf o ran mynediad i driniaethau canser.

Yn ôl y data gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod yma roedd yna fwy o graffu wedi digwydd ar gyfraddau marwolaeth mewn 3 bwrdd iechyd - Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan a Chwm Taf.

Dywed Mr Sissling bod Llywodraeth Cymru yn darparu gofal ychwanegol a hynny weithiau yn gefnogaeth arbenigol a bod hyn wedi arwain at welliannau.

'Rhan fwyaf yn gwella'

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Sissling: "Mae'r cynnydd angen cael ei weld mewn cyd-destun ehangach o welliannau.

"Wrth edrych ar y prif feysydd perfformiad mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw [byrddau iechyd] yn gwella, ac yn gwella'n eithaf cyflym.

"Mae hynny oherwydd ein bod ni i raddau wedi escalatio pan mae pethau'n edrych fel eu bod yn symud i ffwrdd o batrwm o welliannau.

"Rydym yn darparu cefnogaeth arbenigol gyda chlinigwyr sydd yn ymwneud â datblygu cynlluniau newydd, rydym yn darparu cefnogaeth allanol pan fod angen.

"Felly mae'r system o escalatio yn gweithio drwy alluogi gwelliannau cyson dros ystod eang o feysydd.

Dywedodd Mr Sissling fod rhai byrddau iechyd yn ymateb yn gynt nac eraill ac mai swyddogaeth y llywodraeth oedd "bod yn amyneddgar".

Mwy o bwysau

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi ei beirniadu am fethiant y gwasanaeth iechyd i gyrraedd ei thargedau perfformio.

Mae'r targedau yma yn cynnwys amseroedd y mae ambiwlans yn cyrraedd claf, faint o oriau y mae cleifion yn aros yn yr unedau brys ac amseroedd aros ar gyfer triniaethau mewn ysbytai.

Yn ei adroddiad blynyddol sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener dywed Mr Sissling fod pwysau yn drymach nac erioed yn y gaeaf a dechrau'r gwanwyn wedi cael effaith ar rannau o'r gwasanaeth iechyd.

Yn y ddogfen mae'n dweud: "Doedden ni ddim yn gallu parhau gyda lefelau perfformiad 2011/12 ac yn gynharach yn y flwyddyn. Mae llawer wedi ei ddysgu o'r profiad ac mae'r gwasanaeth iechyd nawr yn cynllunio nid yn unig ar gyfer gweddill 2013 ond ar gyfer y tair blynedd nesaf."

Ond er bod y llywodraeth yn ymwneud gyda chynlluniau i baratoi ar gyfer gaeaf caled arall mae'n dweud bod yn rhaid i'r byrddau iechyd weithredu'r cynlluniau.

Delio gyda chwynion

"Mae'r byrddau iechyd yn gwneud y penderfyniadau eu hunain. Maen nhw'n blaenoriaethu eu cyllidebau i wneud yn siŵr bod gyda nhw'r adnoddau cywir, y lefelau staffio cywir, yr adnoddau iawn ar gyfer yr ambiwlans a'r uned gofal dwys.

"Felly mae hyn yn fater i bob un o'r byrddau iechyd i wneud yn siwr bod gyda nhw'r adnoddau cywir yn eu lle."

Mae'r adroddiad yn nodi bod yna welliannau mewn sawl maes pwysig megis lleihau'r niferoedd sydd yn cael afiechydon tra yn yr ysbyty a mesurau i annog bod yn fwy agored o fewn y gwasanaeth iechyd.

Ond dywed Mr Sissling mai un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd delio gyda chwynion. Mae'n dilyn pryderon bod yna ormod o gleifion yn gorfod aros rhy hir i gael ymateb gan y gwasanaeth iechyd pan fo pethau yn mynd o'i le.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.