Abertawe 1-0 St Gallen

Wayne Routledge celebrates after scoring Swansea's goal Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Daeth yr unig gôl gan Wayne Routledge

Abertawe 1-0 St Gallen

Mae Abertawe wedi ennill o gôl i ddim yn erbyn tîm o'r Swistir St Gallen yng Nghynghrair Europa nos Iau.

Dyma oedd ail gêm yr Elyrch yn y grwp ac mae'r fuddugoliaeth yn golygu eu bod ar y brig wedi buddugoliaeth yn erbyn Valencia o 3-0.

Fe fethodd yr ymwelwyr gic o'r smotyn yn yr hanner cyntaf a daeth yr unig gôl gan Wayne Routledge a hynny wedi 52 munud.

Er nad oedd y perfformiad yn un o'r goreuon gan Abertawe, mae'r canlyniad yn golygu eu bod mewn sefyllfa gryf gyda chwech o bwyntiau.

Dechrau da

Mae capten Abertawe ar y noson, Leon Britton wedi dweud bod y fuddugoliaeth yn un bwysig.

"Rydyn ni mewn sefyllfa gryf dwi'n meddwl," meddai Britton.

"Mae'n anodd gofyn am fwy 'na chwe phwynt o'r ddwy gêm, a heb ildio gôl chwaith.

"Mae wedi bod yn ddechrau gwych ond dyna i gyd ydy o, dechrau.

"Mae pedair gem i fynd ac rydyn ni am sicrhau ein bod ni'n symud i'r rownd nesaf."

Bydd yr Elyrch yn wynebu Kuban Krasnodar nesaf ar Hydref 24.

Abertawe: Tremmel, Tiendalli, Davies, Britton, Chico, Amal, Pozuelo, De Guzmán, Bony, Michu, Routledge

Eilyddion: Vorm, Taylor, Shelvey, Dyer, Lamali, Cañas, Alvaro

St Gallen: Lopar, Martic, Lenjani, Janjatovic, Montandon, Besle, Vitkieviez, Mutsch, Karanoviç, Mathys, Rodriguez

Eilyddion: Nushi, Nater, Keita, Wüthrich, Herzog, Russo

Dyfarnwr: Nuno Duarte Gomes

Straeon perthnasol