Dynes mewn cyflwr difrifol wedi damwain

Mae dynes mewn cyflwr difrifol wedi damwain ffordd fore Gwener.

Roedd y gwrthdrawiad yn Llansamlet ger Abertawe ychydig cyn 6.55yb.

Tarodd beic modur Yamaha gwyn ddynes 75 oed oedd yn cerdded ei chi.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Treforys a bu farw'r ci.

Ceisiodd gyrrwr y beic adael yr ardal ond cafodd ei arestio.

Hoffai'r heddlu siarad â rhai oedd yn teithio ar Heol Samlet ar y pryd, gan gynnwys perchnogion ceir Ford Fiesta tywyll, Citroen C4 arian a BMW 1 du.

Roedd y ffordd ar gau am gyfnod.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.