Cymdeithas yn bygwth gweithredu

  • 5 Hydref 2013
Rali Cymdeithas yr Iaith
Cafodd y rali flynyddol ei gynnal yng Ngharno

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y byddan nhw yn gweithredu yn uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cymru os na fydd polisïau yn eu lle i gefnogi'r iaith erbyn 1 Chwefror, 2014.

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo yng nghyfarfod cyffredinol y gymdeithas yng Ngharno brynhawn dydd Sadwrn.

Roedd ffigyrau'r Cyfrifiad diwethaf yn dangos dirywiad yn nifer rheiny sydd yn siarad yr iaith ac mae'r gymdeithas yn credu y bydd y llywodraeth wedi cael digon o amser i ymateb i'w pryderon erbyn mis Chwefror.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw yr un mor ymroddedig i dwf yr iaith Gymraeg â'r gymdeithas.

Cyfrifiad

Yn ystod y rali, dywedodd Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i ni weld canlyniadau'r Cyfrifiad, ac mae llawer o siarad a thrafod wedi bod ynglŷn â sefyllfa'r Gymraeg.

"Bellach, mae yna gonsensws bod argyfwng yn wynebu'r Gymraeg a bod angen newidiadau polisi mawr.

"Rydan ni wedi dweud, ers cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad, nad oes diben eistedd yn ôl a derbyn y canlyniadau: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg.

"Os na fydd y llywodraeth yn gweithredu ar y chwe pwynt rydan ni wedi eu hamlinellu yna fe fyddwn ni yn gweithredu yn uniongyrchol yn ddi-drais.

"Mi 'yda ni wedi llunio rhestr o bobol sy'n barod i weithredu, ma ymgyrchoedd fel hyn wedi gweithio yn y gorffennol, ac mi da ni'n barod i neud hyn eto."

Y chwe pwynt mae'r gymdeithas eisiau gweld yn cael eu gwireddu yw:

  • Addysg Gymraeg i bawb;
  • Arian 'teg' i'r iaith gan Lywodraeth Cymru;
  • Y llywodraeth yn annog cyrff cyhoeddus eraill i weithredu yn fewnol trwy'r Gymraeg fel y mae Cyngor Gwynedd yn gwneud;
  • Safonau iaith i greu hawliau clir;
  • System gynllunio newydd;
  • Sicrhau bod yr iaith yn rhan ganolog o'r mesurau Cynaliadwyedd a Chynllunio.

Mae'r gymdeithas hefyd wedi lansio cloc ar eu gwefan sydd yn cyfrif i lawr at 11 Rhagfyr. Adeg hynny mi fydd hi'n flwyddyn ers canlyniadau'r Cyfrifiad pan gyhoeddwyd bod 19.0% o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2011. 20% oedd y ffigwr yn 2001.

'Nid y '60au'

Wrth ymateb i ofynion y Gymdeithas dywedodd y llywodraeth eu bod yn bwriadu lansio ymgyrch newydd ynglŷn ag addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol agos.

Dywedont hefyd eu bod yn parhau i gyd-weithio gyda pobl sydd â diddordeb yn yr iaith er mwyn diogelu ei dyfodol ledled Cymru.

"Mae'n rhaid i Gymdeithas ddeall fod y rhai sydd yn y llywodraeth yr un mor ymroddedig i dwf yr iaith Gymraeg a chynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg ag y mae nhw," meddai llefarydd.

"Nid y 1960au na'r 1970au yw hi.

"Rydym wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg ac wedi cymeryd camau ers canlyniadau'r Cyfrifiad.

"Mae hyn yn cynnwys y Gynhadledd Fawr - trafodaeth genedlaethol ynglŷn â'r iaith, roddodd gyfle i bawb gael mynegu eu barn ar sut i ddiogelu dyfodol yr iaith.

"Rydym wedi hel tystiolaeth a byddwn yn ymateb yn ystod yr hydref. Byddwn hefyd yn cyhoeddi TAN20 ddiwygiedig yn ystod yr wythnosau nesaf, ynghyd ac amserlen Safonau."

Cyhoeddodd y prif weinidog y Gynhadledd Fawr ym mis Chwefror er mwyn trafod yr heriau sy'n wynebu'r iaith.