Caerdydd 1 - 2 Newcastle

Newcastle
Image caption Roedd Newcastle yn enillwyr haeddiannol

Doedd perfformiad da ail hanner Caerdydd ddim yn ddigon i'w hachub wrth i Newcastle ddysgu gwers iddyn nhw yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd Newcastle yn wefreiddiol yn yr hanner cyntaf gyda gôl-geidwad Caerdydd David Marshall yn cael ei orfodi i wneud aml i arbediad campus.

Ond nid oedd "Rhif Un yr Alban" fel mae cefnogwyr Caerdydd yn ei alw'n gallu atal y lli am llawer hirach, wrth i ergyd symol Remy ddarganfod cefn y rhwyd o 22 llath wedi hanner awr.

Daeth gôl arall wyth munud yn ddiweddarach - Remy, eto, yn rhwydo wrth i'r amddiffyn fethu a delio gyda'r ymosodiad.

Roedd perfformiad y tîm cartref lawer gwell wedi'r egwyl, a rhoddodd ail gôl Odemwinge i'r clwb obaith iddynt y byddan nhw'n medru cipio pwynt.

Ond nid felly y bu hi a bydd Caerdydd yn siŵr o fod yn adlewyrchu wedi derbyn gwers bêl-droed gan un o fechgyn mawr y gynghrair.