Gleision yn rhoi cweir i Gaeredin

Gleision
Image caption Roedd perfformiad y Gleision yn un clodwiw ond rhaid cofio bod Caeredin ar waelod y tabl

Alex Cuthbert oedd seren y gêm wrth i'r Gleision roi crasfa i Gaeredin ar Barc yr Arfau.

Sgoriodd ddau gais wrth i'w glwb chwalu'r Albanwyr yn hawdd o 29 pwynt i 12.

Leigh Halfpennwy sgoriodd weddill pwyntiau'r tim cartref wrth iddynt sicrhau eu hail buddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Pro 12 y tymor hwn.

Mae'r canlyniad yn golygu eu bod nhw'n neidio dros y Sgarlets i'w wythfed safle.