Dedfrydu dyn yn yr Alban oherwydd sylwadau am April

Liam Young Image copyright Campbell Thomas
Image caption Dywedodd Liam Young na ddylid cyfyngu ar hawliau pobl i fynegi barn

Mae dyn 25 oed o'r Alban wedi ei ddedfrydu i wneud 120 o oriau o waith yn y gymuned wedi iddo gyfaddef iddo anfon negeseuon dirmygus ar y we am yr ymdrech i ddod o hyd i April Jones.

Roedd negeseuon Liam Young o Swydd Ayr ar wefan Facebook ddeuddydd ar ôl i'r ferch bum mlwydd oed gael ei chipio fis Hydref y llynedd.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o ymddwyn yn afreolus ond honnodd na ddylid cyfyngu ar hawliau pobl i fynegi barn.

Roedd ymgyrch chwilio enfawr wedi dechrau ar ôl i April fynd ar goll ar Hydref 1 2012.

Clywodd y llys yn Kilmarnock fod Young wedi bod yn rhan o sgwrs ar Facebook, gyda'r naill yn ceisio bod yn fwy brawychus na'r llall.

Dywedodd ei gyfreithiwr Graeme Cunningham: "... (roedd) ei sylw yn frawychus ac yn hurt.

'Gwers'

"Mae'n ymddiheuro ac mae gwers wedi ei dysgu."

Collodd Young ei swydd cyngor wedi i'w gyflogwyr gael gwybod am y drosedd.

Dywedodd y Siryf Brian Murphy: "Mae'n peri gofid bod rhywun yn credu y gallai ddweud yr hyn y mynnan nhw ar Facebook oherwydd eu bod yn byw mewn cymdeithas ddemocrataidd.

"Rydw i'n gobeithio y byddwch yn gadael y llys gan wybod nad yw rhyddid barn heb gyfyngiadau."

Straeon perthnasol