Bale yw Chwaraewr y Flwyddyn

Gareth Bale Image copyright AP
Image caption Torrodd Real Madrid record y byd am drosglwyddiad wrth dalu £85 miliwn am Gareth Bale yr haf yma

Mae ymosodwr Real Madrid a Chymru, Gareth Bale, wedi cael ei ddewis yn Bêl-droediwr y Flwyddyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru 2013.

Cafodd y chwaraewr 24 oed ei werthu gan Tottenham am £85.3m yr haf yma, y pris dryta' erioed am chwaraewr pêl-droed.

Capten Cymru, Ashley Williams, gafodd ei ddewis fel chwaraewr clwb y flwyddyn, gyda'i gyd chwaraewr gydag Abertawe Ben Davies ennill chwaraewr ifanc y flwyddyn.

Llwyddodd Jess Fishlock i gadw gafael ar wobr chwaraewr benywaidd y flwyddyn, ar ôl ennill y llynedd hefyd.

Angharad James, o'r Bristol Academy a ddewiswyd fel chwaraewr benywaidd ifanc y flwyddyn, a Lauren Price o Glwb Merched Caerdydd fel chwaraewr clwb benywaidd y flwyddyn.

Yn ogystal ag ennill y brif wobr, Bale oedd hoff chwaraewr y cefnogwyr hefyd.

Mae'r gwobrau, sy'n cael eu dewis gan newyddiadurwyr a darlledwyr, yn adlewyrchu'r cyfnod rhwng Hydref 2012 a Hydref 2013.

Fe gawson nhw eu cyflwyno mewn cinio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd nos Lun.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.