UKIP yn dewis Nathan Gill i Ewrop

Nathan Gill
Image caption Nathan Gill oedd ymgeisydd UKIP yn yr is-etholiad diweddar ar Ynys Môn

Mae UKIP wedi dewis Nathan Gill ar frig eu rhestr ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Roedd Mr Gill yn ymgeisydd yn yr isetholiad cynulliad diweddar ar Ynys Môn.

Mae gan y blaid un o'r pedair sedd Gymreig yn y Senedd Ewropeaidd, ond mae'r aelod presennol John Bufton wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisio'r flwyddyn nesaf.

Yn ail ar restr UKIP mae James Cole, gyda Caroline Jones yn drydydd a David Rowlands yn bedwerydd.

Y tri aelod presennol arall, Derek Vaughan i'r blaid Lafur, Kay Swinburne i'r Ceidwadwyr a Jill Evans o Blaid Cymru, sydd ar frig rhestrau eu pleidiau nhw.

Mae Mr Gill yn gynorthwyydd i Mr Bufton, a ddywedodd na fyddai'r ymgeisio am y sedd enillodd yn 2009 oherwydd ei iechyd.

Dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage: "Mae UKIP yn rhoi nifer o ymgeiswyr o safon uchel iawn i'r etholiadau Ewropeaidd yn 2014.

"Bydd ein hymgeiswyr ym mhob rhan o'r wlad yn rhoi ein neges i bobl Brydeinig mai nawr yw'r amser i'w lleisiau gael eu clywed."

Straeon perthnasol