Coleman a Collins i gymodi

James Collins Image copyright AFP
Image caption Bydd Collins yn cwrdd â'r rheolwr ddydd Mercher

Bydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru Chris Coleman yn cwrdd â'r amddiffynnwr James Collins ddydd Mercher i geisio datrys eu problemau.

Dywed Coleman ei fod yn parhau i fynnu bod yr amddiffynnwr wedi gwrthod ymuno â charfan Cymru cyn y gêm yn erbyn Serbia ym mis Medi.

Mae Collins, sy'n 30 oed, wedi gwadu hynny.

Mae 10 o chwaraewyr wedi eu hanafu ac felly ddim ar gael i wynebu Macedonia ddydd Gwener a Gwlad Belg oddi cartref ar Hydref 15 yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae'n debyg fod Collins, sydd wedi chwarae 41 gwaith i'w wlad, wedi galw Coleman ar y ffôn ddydd Mawrth

Byddai cynnwys Collins yn y garfan yn hwb yn wyneb y rhestr hir o anafiadau sy'n wynebu Cymru.

Ymhlith y rhai sydd wedi eu hanafu mae'r amddiffynwyr Ashley Williams, Adam Matthews, Ben Davies, Danny Gabbidon a Sam Ricketts.

Mae Cymru yn ceisio osgoi gorffen ar waelod Grŵp A.