Sêl bendith i 270 o dai ger Parc Manwerthu Brychdyn?

Mae disgwyl i gynghorwyr roi sêl bendith ar gyfer adeiladu 270 o dai ger ffordd yr A55 ym Mrychdyn, Sir y Fflint.
Mae'r safle ger y ffordd ymadael am Barc Manwerthu Brychdyn ac yn cynnwys tir sydd eisoes â thai yno ar Ffordd Neuadd Brychdyn.
Cafodd datblygwyr ganiatâd cynllunio amlinellol ym mis Medi 2012.
Fel rhan o'r cais bydden nhw'n gorfod addo £500,000 tuag at ysgolion lleol er mwyn adlewyrchu'r cynnydd posib yn nifer y disgyblion.
Mae adroddiad gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir y Fflint yn argymell cymeradwyo'r cynllunio ar 17 amod.
Y llynedd cafodd caniatâd cynllunio ar wahân ei roi ar gyfer prosiect gwerth £13m i ehangu Parc Manwerthu Brychdyn, gan gynnwys canolfan sinema ag 11 sgrîn a chyfnewidfa bws newydd.