'Effaith y wasgfa ariannol ar iechyd'

Dr Ruth Hussey Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Dr Hussey yn cydnabod bod amgylchiadau economaidd anodd yn cael effaith andwyol ar iechyd pobl

Mae'r wasgfa ariannol yn cael effaith andwyol ar iechyd y genedl, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Yn ei hadroddiad blynyddol cynta' ers dechrau ei swydd, mae Dr Ruth Hussey yn codi pryderon nad yw'r bwlch rhwng iechyd pobl yn rhannau mwya' difreintiedig y wlad a'r bobl fwya' cyfoethog ddim yn lleihau.

Yn ôl Dr Hussey, mae angen meddwl yn wahanol wrth ymdrin ag iechyd a'r economi ac mae'n dadlau y gallai'r diwydiant gofal iechyd a lles helpu hybu twf ar draws Cymru.

Ymhlith y blaenoriaethau, meddai, mae taclo gordewdra, annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff, a lleihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan dybaco ac alcohol.

Mae adroddiad blynyddol 2012-13 yn gynhwysfawr, yn cwmpasu sawl maes yn y gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac mae hi'n disgrifio iechyd fel "sylfaen ar gyfer mwynhau bywyd i'r eithaf yn hytrach na rhywbeth ar wahân."

Y wasgfa ariannol

Yn ei hadroddiad, dywed Dr Hussey: "Tra bod Cymru wedi datblygu nifer o gynlluniau gwych a systemau cryf, mae'n amser anodd. Mae'r wasgfa ariannol yn gwneud bywyd yn anodd i lawer o bobl, a gallai hynny gael effaith ar eu hiechyd."

Mae'r adroddiad yn nodi bod gordewdra yn parhau i gynyddu, ac ynghlwm wrth hynny, fod clefyd siwgr ar gynnydd.

Bellach mae mwy o oedolion yn cael eu trin am bwysau gwaed uchel, a rhy ychydig o bobl yn gwneud ymarfer corff.

Dywed Dr Hussey fod angen gweithredu ar frys i ddelio â gordewdra ymhlith plant yn benodol.

Gydag achosion wedi treblu dros y 30 mlynedd diwetha', mae'n rhybuddio fod hon yn un o'r problemau mwya' difrifol sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd.

Ond dyw'r darlun ddim yn ddu i gyd. Mae yna ostyngiad hirdymor wedi bod yn nifer marwolaethau yn sgil clefyd y galon neu ganser yng Nghymru tra bod marwolaethau ymhlith babanod yn parhau yn isel.

Byw yn hirach

"Mae'r adroddiad yn dangos bod disgwyliad oes yng Nghymru yn parhau i wella, gyda'r un i ddynion yn 78.0 oed a'r un i ferched yn 82.2 oed ar gyfer 2009-2011," medd Dr Hussey.

"Ac mae disgwyliad oes iach hefyd yn ymestyn er nad yw'r cynnydd yn gyson o flwyddyn i flwyddyn. Yn 2008-10, y disgwyliad oes iach cyfartalog oedd 63 oed i ddynion a merched.

"Rhaid inni atal ffactorau sy'n gysylltiedig â ffyrdd o fyw afiach fel smygu, yfed a gordewdra sy'n cyfrannu at achosion y gellid eu hosgoi sy'n achosi marwolaethau cynamserol a salwch fel canser, clefyd cornaidd y galon, iechyd meddwl gwael a chlefyd yr iau.

"Mae'r hyn sy'n gwneud pobl yn iach yn debyg iawn i'r hyn sy'n eu gwneud yn hapus, bod â phwrpas mewn bywyd sy'n rhoi boddhad iddynt, rhagolygon da, teimlo'n iach o gorff a meddwl, a byw mewn cymuned a chymdeithas weddus lle mae gan bobl o bob oedran a chefndir siawns deg mewn bywyd."

'Atal iechyd gwael'

Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Mark Drakeford wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud: "Fel mae hi'n [Dr Hussey] dweud, rhaid inni fynd ati o ddifri i gyflawni ein nod o atal iechyd gwael yng Nghymru.

"Gellir gwneud hyn drwy leihau'r ffactorau sy'n golygu nad yw pobl yn byw'n iach - er enghraifft smygu, yfed a gordewdra. Er bod y disgwyliad oes yn dal i wella, mae pobl yn datblygu afiechydon cronig wrth fynd yn hŷn.

"Byddai modd osgoi llawer o'r afiechydon hyn ac mae'n rhaid i heneiddio'n dda fod yn flaenoriaeth bwysig i ni."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.