Ymosodiadau Wrecsam: Cyhuddo dyn

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 21 oed o geisio llofruddio tri myfyriwr yn dilyn digwyddiad yn Wrecsam yn oriau man y bore ar 2 Hydref.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y bydd Gary Douglas o'r Llai, Wrecsam yn ymddangos o flaen llys yr ynadon y dref ddydd Gwener 11 Hydref.

Yn ogystal â'r cyhuddiadau o geisio llofruddio mae hefyd wedi ei gyhuddo o affräe, o ymosod ac o dri achos o fod yn berchen ar arf bygythion mewn man cyhoeddus.

Wedi'r digwyddiad ar 2 Hydref cafodd un dyn ei drin yn yr ysbyty a cafodd dynes ei thrin am anafiadau man. Ni dderbyniodd y drydedd ddynes sy'n ymwneud â'r achos unrhyw anafiadau.

Straeon perthnasol