Iain Moody a Malky Mackay
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Helbul Clwb Pêl-droed Caerdydd

10 Hydref 2013 Diweddarwyd 21:49 BST

"Mae 'na beryg i Vincent Tan ddinistrio'r clwb sydd mor agos i'n calonnau". Dyna eiriau criw o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd fu'n cwrdd heno i drefnu eu protest nesaf yn erbyn penderfyniadau dadleuol y Perchennog o Malaysia. Wedi i Mr Tan gael gwared ar bennaeth recriwtio'r clwb Ian Moody, mae 'na bryder nawr ymhlith selogion yr Adar Gleision mai'r rheolwr Malky Mackay fydd y nesaf i adael. Adroddiad Iwan Griffiths.