Cofio trychineb glo mwya' gwledydd Prydain

Y gofeb
Cafodd y cerflun ei ddadorchuddio fore Llun

Mae cofeb wedi ei dadorchuddio yn Senghennydd nid yn unig oherwydd trychineb 1913 ond oherwydd pob trychineb glofaol yng Nghymru.

Cafodd Cofeb Lofaol Genedlaethol Cymru ei dadorchuddio ar safle Pwll Glo Universal, union 100 o flynyddoedd wedi'r trychineb glo gwaethaf yn hanes Prydain.

Mae digwyddiadau wedi bod yn coffáu'r trychineb laddodd 440 o ddynion a bechgyn wrth i ffrwydrad enfawr ddinistrio'r pwll a newid y pentref am byth.

Daeth cannoedd o bobl i wylio'r seremoni wrth i'r darlledwr Roy Noble annerch y dorf.

'Rhan bwysig'

Roedd seiniau Côr Meibion Cwm yr Aber ar hyd y cwm yn ystod y bore a thywynnodd yr haul wrth i'r gofeb gael ei dadorchuddio am 12.30.

Roedd Roy Noble yn athro yn Ysgol Gynradd Senghennydd am gyfnod a'i dad a'i daid yn lowyr.

Dywedodd fod y diwydiant glo yn "rhan bwysig o'n hanes ni.

"Mae'r ardaloedd hyn wedi ein gwneud ni beth y'n ni heddi ac mae'n rhan bwysig ofnadwy ..."

Mae'r cerflun, gafodd ei ddylunio gan Les Johnson, o weithiwr achub fuodd yn brwydro'r tanau yn y pwll yn ceisio helpu glöwr.

Cafodd gardd goffa ei hagor ac ynddi mae wal sydd ag enwau pob un o'r 521 o weithwyr fu farw yn y ddau drychineb yn Senghennydd yn 1901 a 1913.

Un o'r rheiny oedd hen-daid yr Aelod Cynulliad Lindsay Whittle, yn y danchwa yn 1913.

Roedd Evan Hopkin James yn 42 oed pan fu farw, gan adael gwraig ac 11 o blant ar ei ôl.

Cofeb
Mae enwau pob un o'r 521 fu farw yn Senghennydd yn yr ardd goffa

"Dwi'n cofio fy nhad-cu yn dweud eu bod nhw wedi cario corff fy hen dad-cu adref yn y bath tun - roedd fy nhad-cu yn 13 blwydd oed," meddai Mr Whittle.

"Mae'n anodd dychmygu, bachgen 13 oed yn cario corff ei dad adref mewn bath. Mae'n ofnadwy."

Dywedodd fod nifer y bobl ddaeth i'r seremoni yn dangos nad oedd yr ardal wedi anghofio'r trychineb.

"O edrych ar faint o bobl sydd wedi dod yma heddiw, mae'n dal i fod yn hynod o bwysig.

"Roedd chwythu'r hwter - rhywbeth sydd heb ei glywed yn y cwm ers amser maith a dydyn ni ddim am ei glywed yn fuan iawn eto - yn deyrnged emosiynol iawn i'r dynion a bechgyn yma.

"Rhaid cofio bod 10 o'r bechgyn fu farw yn 14 oed ac mae colli eu bywydau mor gynnar yn drasiedi."

Teyrnged

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn un o'r rhai'n gosod blodau wrth y gofeb ac roedd eraill wedi teithio o bell i weld y gofeb genedlaethol, gan gynnwys un grŵp o Swydd Durham.

Am 8.10yb, atseiniodd hwter Pwll Glo Universal dros y cwm, 100 o flynyddoedd union ers y ffrwydrad.

Ymysg y dorf roedd teuluoedd rhai o'r rheiny fu farw yn y trychineb yn Senghennydd.

Collodd Jan o Gaerdydd, nad oedd eisiau rhoi ei chyfenw, nifer o'i pherthnasau y diwrnod hwnnw.

"Roedd teulu fy hen fam-gu yn byw ar Fynydd Caerffili, gyda naw o blant a dau oedolyn yn y tŷ.

"Bob dydd roedd ei gŵr a'r tri mab hynaf yn cerdded i Senghennydd i weithio yn y pwll.

"Ar y diwrnod yma 100 o flynyddoedd yn ôl bu farw ei gŵr 46 oed, a'i ddau fab 20 ac 17 oed."

Cysur

Y dorf wrth y gofeb
Daeth pobl allan i'r strydoedd i glywed yr hwter yn canu am 8.10 fore Llun

Er y tristwch, dywedodd Jan ei bod hi'n gysur gweld cynifer yn y seremoni.

"Mae'n hynod emosiynol heddiw a dwi'n dychmygu sut y byddai pobl wedi bod yn teimlo'r bore hwnnw, yn poeni a fyddai eu perthnasau'n cael eu tynnu o'r pwll neu beidio.

"Mae'r (seremoni) yn golygu llawer iawn. Rydym ni i gyd yma am un rheswm, mae pob teulu wedi colli rhywun, rhai mwy nag eraill, ond mae pawb wedi colli rhywun."

Dywedodd John Roberts, cynghorydd Sir Cwm yr Aber, fod ei deimladau'n gymysg.

'Uno'

"Mae hi'n ddiwrnod trist ond mae hi'n ddiwrnod o ddathlu hefyd mewn ffordd.

"Ers sawl blwyddyn mae'r gymuned wedi bod yn gweithio ar y prosiect a chriw bach o wirfoddolwyr wedi ei roi o at ei gilydd, ac mae'r gymuned wedi uno.

"Mae 'na deils yma i goffáu pob un bachgen a dyn fu farw yn y ddwy danchwa, a phlant ysgol wnaeth eu gwneud nhw.

"Felly mae'r gymuned i gyd wedi rhoi help llaw."

Dywedodd ei fod yn bwysig cofio bod trychineb Senghennydd wedi cael effaith ar bobl ym mhob rhan o Gymru.

"Roedd 'na sawl trychineb yn y diwydiant glo, sawl yng Nghymru heb sôn am lefydd eraill. Ond roedd 'na ddwy yn fan hyn.

"Roedd 1901 yn fawr ond 1913 oedd y mwyaf, a'r mwyaf ym Mhrydain hefyd.

"Felly mae'n bwysig cofio be' ddigwyddodd fan hyn ac aberth gweithwyr eraill mewn llefydd eraill.

"Ond mae'n bwysig cofio hefyd mai pobl o lefydd eraill ddaeth i mewn i fan hyn.

"Mae'n perthyn i bob man, nid dim ond Cwm yr Aber, mae'n perthyn i bawb ar hyd a lled Cymru."