Plaid: 'cwmni ynni, prisiau rhatach'

Leanne Wood
Image caption Mae Leanne Wood wedi datgelu polisiau newydd yn y gynhadledd

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi addo creu cwmni o'r enw Ynni Cymru pe bai'r blaid yn ffurfio Llywodraeth Cymru wedi 2016.

Dywedodd fod model Glas Cymru wedi bod yn llwyddiant ym maes dŵr ac y byddai modd efelychu hynny ym maes ynni.

Fe fyddai hyn yn arwain at brisiau rhatach, meddai.

Datganodd ei gwrthwynebiad llwyr i ffracio.

1,000 o ddoctoriaid

Dywedodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gallu talu am 1,000 o ddoctoriaid ychwanegol drwy godi treth ar ddioddydd siwgrllyd.

Er mwyn ceisio dangos mai ei phlaid hi oedd yr un yn deall pryderon pobol am gostau byw a'r economi, dywedodd y byddai'n cyflwyno rheolau ar gyfer rhent yn y sector tai preifat ac yn rhoi'r grym i awdurdodau lleol i reoli ail gartrefi.

Yng Nghymru mae tua 190,000 o aelwydydd yn rhentu.

Addawodd Ms Wood gryfhau 'r canllawiau cynllunio ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn eu gorfodi i ystyried effaith datblygiadau newydd ar yr iaith Gymraeg.

50,000 o swyddi

Honnodd fod modd creu 50,000 o swyddi drwy wella caffael.

Addawodd leihau ardrethi busnes ar gyfer busnesau gyda gwerth trethiannol o lai na £15,000 y flwyddyn, polisi fyddai, meddai, yn helpu 83,000 o fusnesau.

Pe bai'r polisi'n dod i rym, meddai, ni fyddai 73,000 ohonyn nhw'n gorfod talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl.

Trodd ei sylw hefyd at Ewrop, gan ddweud bod angen gwrthbwyso grym Senedd Ewrop trwy gael Senedd o'r Cenhedloedd a'r Rhanbarthau.

Fe fydd Plaid Cymru yn brwydro, meddai, i sicrhau bod y Gwarant Cyflogaeth i Bobl Ifanc, sydd ar gael mewn rhannau o Ewrop hefyd, ar gael yng Nghymru.

Dadleuodd bod gan y blaid y momentwm i'w chario ymlaen "dros y linell derfyn, i greu Llywodraeth nesa Cymru yn 2016".

"Nid sbrint yw'r ras i drawsnewid Cymru, meddai, "ond marathon - dwi'n tanio'r gwn cychwyn heddiw."

Ar lefel bersonol, addawodd, "Does dim gorffwys i fod nes y bydda i'n siarad â chi fel Prif Weinidog cyntaf Plaid Cymru, yn arwain Cymru ymlaen."

Hwyliau da

Cyn y gynhadledd dywedodd Ms Wood, flwyddyn a hanner ers cael ei hethol i'r swydd, bod y blaid mewn hwyliau da yn dilyn buddugoliaeth Rhun ap Iorwerth yn isetholiad Ynys Môn ym mis Awst - ac isetholiad Penyrheol yn Sir Caerffili yn gynharach eleni.

Dywedodd wrth y BBC mai'r hyn oedd yn allweddol ynglŷn â'r ymgyrch yn Ynys Môn oedd neges gadarnhaol a thîm lleol cryf a'i bod hi'n hyderus wrth geisio lledu eu negeseuon i weddill Cymru.

Neges Plaid Cymru yw mai "dim ond drwy roi Cymru yn gyntaf y bydd Llywodraeth Cymru yn galluogi'r genedl i gyrraedd ei llawn photensial".

Mae'r blaid hefyd wedi lansio'u slogan ar gyfer etholiadau Ewropeaidd 2014 - Cymru'n Gyntaf.

Er mwyn annog aelodau i chwarae rhan fwy yng ngweithgareddau'r blaid mae cyfle i bob aelod bleidleisio eu hunain yn ystod y gynhadledd - y tro cyntaf i hyn ddigwydd.

Doedd dewis Aberystwyth fel lleoliad ddim yn anfwriadol, meddai Ms Wood, gan y bydd y blaid yn targedu sedd Ceredigion yn San Steffan, gan obeithio y bydd eu hymgeisydd Mike Parker yn disodli'r Democrat Rhyddfrydol Mark Williams lwyddodd i gael mwyafrif o 8,324 yn 2010.

'Rhwystrau'

Wrth agor y gynhadledd, dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, sy'n llefarydd ei phlaid ar iechyd, fod "rhwystrau proffesiynol a sefydliadol yn tagu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol".

Pwysleisiodd yr angen i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rhwystro brwydrau rhwng byrddau iechyd a'r awdurdod lleol ynglŷn â phwy sy'n talu am ofal unigolyn mewn angen.

Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn cyflwyno gwelliannau i'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol yn yr wythnosau nesaf i'w gwneud yn ofynnol i integreiddio gwasanaethau gofal a iechyd a chyd-rannu cyllidebau