Donaldson yn gydradd ail ym Meistri Portiwgal

Ym mhencampwriaeth Meistri Portiwgal mae'r golffiwr o Gymru Jamie Donaldson yn gydradd ail, 14 ergyd yn well na'r safon, ar ddiwedd y drydedd rownd.

Paul Waring sydd ar y blaen, ac mae ganddo ddwy ergyd o fantais ar y criw o bedwar sy'n yr ail safle.

66 ergyd gymrodd Jamie Donaldson, o Bontypridd, i gwblhau ei rownd ddydd Sadwrn, ond yr Albanwr Scott Jamieson gafodd y rownd orau.

60 ergyd oedd o ei angen, a dim ond 18 o bobl sydd wedi llwyddo i wneud hynny yn hanes y gylchdaith Ewropeaidd.