Dyn wedi marw wrth ddisgwyl achos llys

Carchar Altcourse
Image caption Bu farw Gary Douglas wedi i ynadon ei gadw yng ngharchar Altcourse yn Lerpwl

Mae dyn oedd yn aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o geisio llofruddio wedi marw yn yr ysbyty.

Roedd Gary Douglas, 21 oed o Llai yn Wrecsam, wedi cael ei gadw yn y ddalfa gan ynadon Wrecsam ddydd Gwener.

Cafodd ei yrru i garchar Altcourse yn Lerpwl, ond bu farw'r diwrnod canlynol yn Ysbyty Fazakerley yn y ddinas.

Roedd Mr Douglas hefyd yn wynebu cyhuddiadau o achosi ffrae, ymosod a thri chyhuddiad o fod ag arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus yn dilyn ymosodiad ar dri myfyriwr ar Hydref 2.

Dywedodd cwmni G4S, sy'n rhedeg y carchar, ei fod wedi marw yn yr ysbyty am tua 8:00pm nos Sadwrn, Hydref 12.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Fel yn achos pob marwolaeth mewn caethiwed, fe fydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn cynnal ymchwiliad."

Mae Heddlu Glannau Mersi hefyd wedi dweud eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dyn o drosglwyddwyd o garchar Altcourse. Dywedodd llefarydd:

"Ar yn o bryd rydym yn ystyried y farwolaeth fel un anesboniadwy ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i ganfod achos y farwolaeth.

"Mae teulu'r dyn wedi eu hysbysu."