Cwpan FA: Gemau cartref i dimau Cymru

Cwpan FA

Fe fydd y ddau dîm o Gymru yn chwarae gartref ym mhedwaredd rownd rhagbrofol Cwpan FA Lloegr y tymor hwn.

Daeth yr enwau o'r het ddydd Llun.

Bydd Wrecsam yn croesawu Hyde i'r Cae Ras, a Corby Town fydd yr ymwelwyr i Ffordd Llaneilian ym Mae Colwyn.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar Hydref 26.