Malky Mackay 'ddim yn bwriadu gadael'

Malky Mackay Image copyright Getty Images

Dyw Rheolwr Tîm Pêl-droed Caerdydd Malky Mackay ddim yn bwriadu gadael, medd ei asiant.

Roedd Malky Mackay'n cwrdd â'r bwrdd ddydd Llun wedi i'w bennaeth recriwtio Iain Moody adael yr wythnos ddiwetha'.

Dywedodd asiant Mackay, Raymond Sparkes: "Yn sicr, ni fydd Malky'n ymddiswyddo o swydd y mae'n ei charu ..."

Yr wythnos ddiwetha' cafodd Alisher Apsalyamov, dyn 23 oed dibrofiad, ei benodi yn lle Moody.

Roedd disgwyl i Mackay ofyn am sicrwydd bod y perchennog Vincent Tan yn dal i'w gefnogi.

Pob ffydd

Y gred yw bod Apsalyamov yn ffrind i fab Tan.

Eisoes mae Tan wedi dweud fod ganddo bob ffydd yn Mackay: "Rwyf wedi ei gefnogi yn y gorffennol a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y blynyddoedd i ddod."

Roedd Moody yn rhan o dîm rheoli Mackay ers sawl blwyddyn, gan sicrhau nifer o drosglwyddiadau mawr i'r Adar Gleision dros yr haf.

Roedd Moody yn rhan o dîm rheoli Malky Mackay yn Watford lle bu'n swyddog y wasg cyn symud gyda'r Albanwr i Gaerdydd yn 2011.

Yn ei swydd recriwtio gyda'r Adar Gleision, mae Moody wedi helpu i ddenu chwaraewyr fel Gary Medel a Steven Caulker i'r clwb.

Straeon perthnasol