Comisiynydd y Gymraeg yn anfon llythyr at weinidog

  • 14 Hydref 2013
Cefn gwlad
Comisiynydd: 'bywiogrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol ac ystyriaethau iaith mewn penderfyniadau cynllunio ynghlwm wrth ei gilydd.'

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi anfon llythyr at y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant wedi i fersiwn diwygiedig o TAN 20 gael ei gyhoeddi.

Cyhoeddodd y gweinidog y newidiadau yr wythnos ddiwetha'.

Dywedodd y comisiynydd Meri Huws: "Mae bywiogrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol ac ystyriaethau iaith mewn penderfyniadau cynllunio ynghlwm wrth ei gilydd.

"Dyna pam ei bod hi mor bwysig cael trefn gadarn ac eglur i awdurdodau cynllunio ar gyfer ystyried y Gymraeg yn y broses gynllunio."

'Adolygiadau'

Yn ei llythyr mae wedi gofyn y cwestiynau canlynol:

* Sut bydd y llywodraeth yn sicrhau bod yr awdurdodau sydd eisoes wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol yn gweithredu'r nodyn cyngor diwygiedig?

* Yn sgil cyhoeddi'r nodyn cyngor fydd y llywodraeth yn gofyn am adolygiadau o Gynlluniau Datblygu Lleol cyn pen y pedair blynedd arferol?

* Fydd y llywodraeth yn rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau oedi cyn mabwysiadu rhagor o Gynlluniau Datblygu Lleol hyd nes i'r 'canllaw ymarferol ar gyfer ystyried y Gymraeg mewn cynlluniau datblygu' gael ei gyhoeddi yn 2014?

* Sut y bydd y llywodraeth yn sicrhau ystyriaeth i'r Gymraeg mewn ceisiadau cynllunio unigol sydd (a) yn deillio o gynlluniau datblygu lleol sydd eisoes wedi'u mabwysiadu neu (b) yn deillio o gynlluniau datblygu hanesyddol fel cynllun datblygu unedol?

* Mae'r nodyn cyngor diwygiedig yn gofyn i awdurdodau ystyried a yw'r Gymraeg yn arwyddocaol o fewn ardal yr awdurdod cynllunio. A fydd y 'canllaw ymarferol' yn rhoi arweiniad ynghylch hynny?

Dywedodd y comisiynydd hefyd y byddai'n croesawu'r cyfle i gael trafodaeth ehangach â'r gweinidog.

Wrth gyhoeddi'r newidiadau i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20, dywedodd y gweinidog y byddai'r canllawiau yn golygu bod "awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio eu Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y Gymraeg".

Roedd y newid yn sgil trafodaethau yn y Gynhadledd Fawr, y drafodaeth genedlaethol am yr iaith yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad oedd yn dangos cwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd y Gymraeg.

Yn ôl y gweinidog: "Rydyn ni'n cydnabod y gall y system gynllunio helpu creu'r amodau cymdeithasol ac economaidd sy'n rhoi cyfle i bobl siarad Cymraeg.

'Eglurder'

"Mae'r TAN diwygiedig hwn yn rhoi eglurder i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylai ystyriaethau yn gysylltiedig â'r Gymraeg gael eu bwydo i mewn i'r gwaith o baratoi eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

"Mae'r canllawiau yn golygu bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig yn lleol ystyried y Gymraeg fel rhan o'u Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol.

"Bydd rhaid iddyn nhw hefyd ymgynghori â'r comisiynydd iaith wrth baratoi ac adolygu'r cynllun."