Lladrad wedi ei 'gynllunio'n ofalus'

Image caption Cafodd Glynis Solmaz ei darganfod yn farw gydag anafiadau i'w phen a'i hwyneb

Mae llys wedi clywed sut roedd lladrad wnaeth arwain at lofruddiaeth honedig pensiynwraig wedi ei "gynllunio'n ofalus a'i weithredu mewn modd didostur".

Mae disgwyl i'r rheithgor ymddeol i ystyried ei ddyfarniad ddydd Mawrth.

Cafodd Glynis Solmaz, 65, ei lladd yn ei chartref yn Wrecsam ym mis Chwefror, yn ôl tystiolaeth gafodd ei roi gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug.

Mae Alexandros Wetherill, 24, o Wrecsam yn gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth, ond mae wedi cyfaddef dynladdiad ac mae Christopher Curran, hefyd o Wrecsam, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Mae'r ddau yn cyfaddef cynllwynio i ladrata gyda David Lovell a chyn fab-yng-nghyfraith Ms Solmaz, Christopher Natt.

Wrth gau achos yr erlyniad, dywedodd Simon Medland bod y fenyw wedi dioddef ymosodiad estynedig.

Clywodd y llys bod Wetherill wedi cyfaddef achosi ei marwolaeth a bod Mr Curran hefyd yn atebol am ei llofruddiaeth wedi iddo fynd i mewn i'r tŷ.

Dywedodd Simon Medland bod Mr Wetherill wedi ymosod ar Ms Solmaz wedi iddi ei daro: "Fe gafodd o hi ar ei gwely a gwasgodd ei afael ar ei gwddf, gweithred fwriadol i'w hatal hi, i'w darostwng hi, i'w distewi hi..."

Ond dywedodd Stephen Riorden QC ar ran Mr Wetherill fod achos yr erlyniad yn llawn o rethreg ond yn wag o ran ffeithiau.

Honnodd nad oedd gan Mr Wetherill unrhyw fwriad o anafu'r dioddefwraig yn ddifrifol ac mai dyna oedd yr unig fater dylai'r rheithgor ei ystyried.

"Mae'n lleidr sydd wedi cyfaddef ei fod wedi mynd rhy bell ond dyw hynny ddim yn ei wneud yn llofruddiwr," meddai Stephen Riorden.

Dywedodd Nigel Powell QC ar ran Mr Curran bod rhaid i'r rheithgor benderfynu ei fod yn rhan o gydfetner pan gafodd yr anafiadau angheuol eu hachosi os ydynt am ei gael yn euog o ddynladdiad neu lofruddiaeth.

Ond roedd y dystiolaeth yn dangos fod Mr Curran y tu allan i'r tŷ ar yr adeg pan gafodd yr anafiadau eu hachosi, yn ôl Nigel Powell.

"Y realiti yw bod Wetherill yn gweithredu ar ben ei hun wrth wneud yr hyn a wnaeth a bod hyn tu hwnt i'r hyn roedd Curran wedi ei ystyried," meddai.

Mae disgwyl i'r barnwr, yr Ustus John Griffiths-Williams, grynhoi'r achos ddydd Mawrth cyn i'r rheithgor gael e yrru i ystyried y dyfarniad.