Corff wedi ei ddarganfod yn Abertawe

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i gorff gael ei ddarganfod yn Abertawe.

Cafodd swyddogion eu galw tua 5:30yh ddydd Mawrth, ar ôl i'r corff gael ei ddarganfod mewn gardd ger y Guildhall.

Dyw'r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, mae swyddogion yn parhau ar y safle yn ymchwilio.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.