Adroddiad: Pryder am ddiffyg ystafelloedd

Ystafell wely Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r adroddiad wedi bod yn edrych ar y newidiadau i fudd-daliadau tai

Mae pryder nad oes digon o dai efo un neu dwy ystafell wely ar gyfer tenantiaid yng Nghymru yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig.

Erbyn hyn mae'r newidiadau i fudd-daliadau tai wedi eu cyflwyno ac mae'r ddogfen yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i godi tai yn enwedig tai llai o faint a hynny ar frys.

Roedd y pwyllgor yn edrych ar y polisi sydd yn cael ei galw gan rhai yn y "dreth ystafell wely."

Mae'r polisi yn golygu bod pobl sydd yn byw mewn tŷ lle mae yna un neu fwy o ystafelloedd sbâr unai yn gorfod symud i dŷ llai neu dderbyn llai o fudd-dal.

Adolygu polisi?

Mae aelodau'r pwyllgor yn dweud eu bod nhw'n poeni nad oes digon o dai ar gael i rheini sydd eisiau symud tŷ yn enwedig mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad dylai'r llywodraeth yn San Steffan gadw golwg ar y sefyllfa ac adolygu ei pholisi os oes prinder tai.

Codi pryderon mae aelodau'r pwyllgor hefyd am y penderfyniad i beidio eithrio pobl efo anableddau o'r "dreth ystafell wely".

Maen nhw'n dweud y dylai gwleidyddion edrych ar y gost i gynghorau o symud person sydd efo anableddau i adeilad arall am fod angen yn aml gwneud newidiadau i'r tŷ hwnnw.

Mae angen i'r adran gwaith a phensiynau hefyd edrych ar effaith y polisi ar deuluoedd lle mae'r rhieni wedi gwahanu a'r effaith ar y plant.

Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod anghytuno cyffredinol am ba mor llwyddiannus ydy'r "dreth ystafell wely" neu'r "gymhorthdal stafell sbâr" fel mae'r glymblaid yn San Steffan yn ei alw.

Eu casgliad ydy nad oes yna fodd dod i gonsensws am fanteision y polisi ond ei fod o rŵan wedi dod i rym.

Cymru effeithio fwyaf

Yng Nghymru mae nifer y bobl sydd wedi bod yn hawlio budd-daliadau tai wedi bod yn cynyddu ers pum mlynedd.

Mae 250,000 o bobl yn derbyn yr arian yma yng Nghymru sydd yn rhyw 8% o'r boblogaeth. Mae llywodraeth Prydain yn darogan y bydd 40,000 o denantiaid yn cael eu heffeithio gan y polisi ac mai pobl Cymru fydd yn cael eu heffeithio fwyaf ym Mhrydain.

Mi oedd aelodau'r pwyllgor hefyd yn ystod yr ymchwiliad yn edrych ar y newid i daliadau uniongyrchol efo'r cred. Mae hwnnw wedi dechrau dod i rym ac erbyn y flwyddyn nesaf mi fydd yn bodoli ar draws Prydain.

Mae aelodau'r pwyllgor yn dweud eu bod nhw'n poeni na fydd na rhai tenantiaid yn medru ymdopi efo taliadau uniongyrchol ac y gallai rhai fynd i ddyled.

Newid meddylfryd pobl

Yng Nghymru mae ardaloedd lle mae hi yn anodd cysylltu efo'r rhyngrwyd. Yn ôl yr adroddiad gallai hyn achosi problemau gan fod y system newydd yn cael ei wneud ar y we.

Dadl Llywodraeth San Steffan ydy bod rhaid lleihau'r arian sydd yn cael ei roi i bobl sydd ar fudd-daliadau tai ac y byddan nhw'n arbed £480 miliwn y flwyddyn, gyda £30 miliwn o hwnnw'n dod o Gymru.

Maen nhw yn dweud bod y polisi yn golygu bod pobl rwan yn ail edrych ar eu sefyllfa a maint y tŷ y maen nhw yn byw ynddo fo.

Yn ôl y llywodraeth dyma'r ffordd fwyaf effeithiol i ddefnyddio'r stoc o dai sydd ar gael.

Straeon perthnasol