'Dylai BBC Cymru fod yn atebol i'r Cynulliad'

Andrew RT Davies
Image caption Roedd Andrew R T Davies yn trafod darlledu mewn araith yn Aberystwyth

Dylai BBC Cymru fod yn atebol i'r Cynulliad yn y dyfodol, yn ôl Arweinydd yr Wrthblaid Andrew R T Davies.

Mewn araith nos Iau yn Aberystwyth dywedodd y dylai gwleidyddion Cymreig allu craffu ar y BBC, gan fod y gorfforaeth yn meddu ar "fonopoli bron iawn ar ohebu ar ddatganoli".

Byddai hyn, yn ôl Mr Davies, yn gwneud golygyddion ac uwch-reolwyr yn atebol am eu gweithredoedd nhw a'u timoedd.

Dyw darlledu ddim wedi ei ddatganoli felly nid oes gan y Cynulliad na Llywodraeth Cymru unrhyw swyddogaethau'n ymwneud â'r maes.

'Penderfyniadau yng Nghymru'

Y corff sy'n craffu ar waith y BBC yw Ymddiriedolaeth y BBC ac mae Cyngor Cynulleidfa yng Nghymru yn adlewyrchu barn y gynulleidfa.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth: "Mae'r BBC yn atebol i dalwyr ffi'r drwydded ar draws y Deyrnas Gyfun ...

"Yng Nghymru yr Ymddiriedolwr Cenedlaethol Elan Closs Stephens sy'n cynrychioli buddiannau talwyr ffi'r drwydded.

"Mae'r Cynulliad yn rhan o'r broses apwyntio."

Dywedodd Mr Davies: "Rhaid i'r corff pwysicaf sydd wedi ei ethol yn ddemocrataidd yng Nghymrui graffu ar benderfyniadau golygyddol sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, nid yn unig am wleidyddiaeth ond am Gymru."

Ysgrifennu

Mae wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Maria Miller, i ddweud y dylai llywodraethiant y BBC yng Nghymru gael ei ystyried yn ystod proses adnewyddu'r siarter yn 2017.

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran nad oedd awgrym Mr Davies yn cael ei ystyried.

Mae ei alwad yn groes i safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae cyfraniad Swyddfa Cymru i ail ran Comisiwn Silk sy'n ystyried grymoedd ychwanegol ar gyfer y Cynulliad wedi dweud: "Mae rhesymau da pam na chafodd darlledu ei ddatganoli fel rhan o'r setliadau datganoli, a does dim tystiolaeth i awgrymu y byddai datganoli polisi darlledu neu newid y ffordd mae'r BBC yn cael ei gyllido o fudd i'r bobl sy'n talu ffi'r drwydded."

San Steffan

Hefyd mae wedi dweud bod yna "fudd clir i'r genedl a'i rhannau cyfansoddol" mewn cadw pwerau darlledu yn San Steffan.

Galwodd Mr Davies am ddiwedd ar y system bresennol o gyllido gwariant datganoledig, system mae'n ei disgrifio fel: "Siec yn cael ei gyrru lawr yr M4, sy'n cael ei chyfnewid am arian ac yna gofyn am fwy fel arfer."

Ddydd Mawrth fe wrthododd Prif Weinidog y DU David Cameron ddweud pryd y byddai pwerau trethi a benthyg newydd yn cael eu gweithredu yng Nghymru, yn unol ag argymhellion rhan gyntaf Comisiwn Silk.

Mae Mr Davies wedi cydnabod barn Mr Cameron fod gan wleidyddion Bae Caerdydd "obsesiwn am chwarae gyda'r cyfansoddiad" ond mae wedi rhoi'r bai ar setliad datganoli gwreiddiol "gwael" oedd, meddai, yn golygu bod nifer o wneuthurwyr polisi yn trafod y cyfansoddiad yn hytrach na pholisi.

Straeon perthnasol