FIFA: Cymru yn codi wyth safle

Chris Coleman Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Does neb yn gwybod a fydd Chris Coleman yn arwain Cymru ar ddechrau'r ymgyrch ar gyfer Ewro 2016

Mae Cymru wedi codi wyth safle yn rhestr detholion FIFA y byd.

Mae'r cochion bellach yn 44ydd, ddau safle'n unig yn is nag yr oedden nhw pan gymerodd Chris Coleman yr awenau yn Ionawr 2012.

Roedd buddugoliaeth yn erbyn Macedonia yr wythnos ddiwetha' a'r gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg, sydd bellach yn bumed yn y tabl, yn hwb.

Er gwaetha'r canlyniadau gorffennodd Cymru'n bumed allan o chwech yn eu grŵp rhagbrofol.

28 safle

Mae'r Alban wedi codi 28 safle, y cynnydd mwya' i unrhyw wlad, diolch i'w buddugoliaeth yn erbyn Croatia.

Bydd Lloegr yn siomedig i fod yn y 10fed safle gan y bydd yn ei wneud yn anoddach iddyn nhw gyrraedd yr ail rownd yn Rio 2014.

Mae'r saith uchaf yn ogystal â'r wlad sy'n cynnal y twrnamaint, Brasil, ar eu hennill yn y rownd grwpiau gan eu bod yn cael osgoi chwarae ei gilydd.

Bydd timau'r Ynys Werdd yn siomedig gan fod y Weriniaeth yn disgyn o 59fed i 60fed a Gogledd Iwerddon o 86ed i 90fed.

Rhestr detholion FIFA - Hydref 2013
Safle Pwyntiau Newid
1. Sbaen 1513 0
2. Yr Almaen 1311 +1
3. Yr Ariannin 1266 -1
4. Colombia 1178 +1
5. Gwlad Belg 1175 +1
6. Uruguay 1164 +1
7. Y Swisdir 1138 +7
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
10. Lloegr 1080 +7
35. Yr Alban 715 +28
44. CYMRU 634 +8
60. Gweriniaeth Iwerddon 550 -1
90. Gogledd Iwerddon 399 -4

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.