Cymru mewn 'perygl o gael ei gadael ar ôl'

  • 19 Hydref 2013
arian Ewrop
Derbyniodd gorllewin Cymru a chymoedd y de £1.9 biliwn rhwng 2007-13 a swm tebyg yn y saith mlynedd cyn hynny

Ni all Cymru fforddio "eistedd yn ôl" cyn defnyddio £2.1 biliwn o arian o'r Undeb Ewropeaidd, medd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt.

Mae academydd blaenllaw hefyd wedi rhybuddio y gallai Cymru gael "ei gadael ar ôl" wrth i rannau tlotach o Ewrop, yn draddodiadol, weld lefelau llawer uwch o dwf economaidd.

Mae gorllewin Cymru a chymoedd y de yn gymwys i dderbyn yr arian oherwydd perfformiad economaidd isel y rhanbarthau hynny.

Rhaid i'r arian gael ei wario i hybu twf ac mae'n rhaid i bob ceiniog dderbyn arian cyfatebol o goffrau cyhoeddus neu breifat.

Gydag arian cyhoeddus yn brin a Llywodraeth Cymru heb bwerau benthyg mae gweinidogion wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Banc Buddsoddi Ewrop i weld a oes benthyciadau ar gael i ddechrau cynlluniau newydd.

Dim pwerau benthyg

Dywedodd Ms Hutt wrth raglen Sunday Politics Wales ar BBC Cymru: "Maen nhw'n ystyried ffyrdd o roi cymorth i ni tan i ni gael pwerau benthyg drwy ariannu cynlluniau mewn ffordd wahanol efallai.

"Nid dyma'r amser i eistedd yn ôl a disgwyl - rhaid i ni ddechrau ar y gwaith ac mae'r banc yn awyddus iawn i weithio gyda ni ar hyn."

Bydd arian yr Undeb Ewropeaidd ar gael rhwng 2014 a 2020. Derbyniodd gorllewin Cymru a chymoedd y de tua £1.9 biliwn yn 2007-13, a swm tebyg yn y saith mlynedd cyn hynny.

Gwadodd Ms Hutt nad oedd yr arian wedi cael effaith.

"Mae hyn ynghlwm gysylltiadau trafnidiaeth, adfywiad, helpu busnesau gydag ymchwil a datblygu.

"Gallwch chi gyfeirio at ffigyrau ond beth am y bobl ifanc sydd wedi cael hyfforddiant - ydyn nhw wedi cael swyddi?

"Dyna'r maen prawf pwysicaf sut yr ydym wedi defnyddio ein harian, ac mae wedi arwain at y bobl ifanc yma yn cael gwaith."

'Ddim yn gwella'

Ond mae ystadegau yr UE yn awgrymu bod ardaloedd eraill wedi gweld mwy o dwf economaidd ar ôl derbyn arian tebyg i'r hyn y mae gorllewin Cymru a chymoedd y de wedi ei dderbyn.

Dywedodd Dr Adrian Healy o Brifysgol Caerdydd wrth y rhaglen: "Mae ardaloedd eraill oedd â thwf isel, cyflogaeth isel a gwerth cynhyrchu tebyg i Gymru wedi gweld lefelau uwch o dwf a graddfeydd uwch o dwf dros y pump, saith neu 10 mlynedd diwethaf ac mae hynny'n gosod gorllewin Cymru a chymoedd y de mewn sefyllfa anodd iawn.

"Mae yma lefel isel o weithgaredd economaidd ac nid yw'n gwella llawer o'i gymharu ag ardaloedd eraill allai gael eu hystyried fel rhai tebyg.

"Yn yr ystyr yna mae risg y bydd Cymru'n cael ei gadael ar ôl."

Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb, nad oedd yr arian oedd wedi ei fuddsoddi wedi trawsnewid economi Cymru fel yr oedd wedi gobeithio.

'Gwastraff'

"Os ydych chi'n teithio ar hyd a lled Cymru fe welwch chi esiamplau o wastraff o fewn Cronfa Strwythurol Ewrop a ddylai wneud i ni deimlo cywilydd.

"Fe welwch chi ganolfannau celfyddydol sydd wedi cau - canolfannau diwylliannol wedi cau.

"Daeth yr holl fuddsoddiad i adeiladau sy'n edrych yn dda iawn ond doedd dim arian mewn lle i'w cadw i fynd ac yn hytrach na chreu ysbryd entrepreneuraidd mae arian o Ewrop mewn gwirionedd wedi cyfrannu at y diwylliant o ddibyniaeth sydd yn ein gwlad."

Sunday Politics Wales, BBC Un Cymru, 11:30am, ddydd Sul, Hydref 20.