Canlyniadau Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports Image copyright FAW

Fe chwaraewyd dwy gêm yn Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports nos Wener.

Aberystwyth 3-3 Y Drenewydd

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen deirgwaith yn y gêm ar Goedlan y Parc gyda Craig Williams yn rhoi'r Drenewydd ar y blaen wedi idm ond pum munud.

Wedi i Mark Jones ddod ag Aber yn gyfartal fe sgoriodd Andy Jones i'r ymwelwyr wedi 24 munud i'w gwneud hi'n 1-2.

Er i Jamie Butler unioni'r sgôr eto wedi 65 munud roedd hi'n ymddangos bod Tom Goodwin wedi sicrhau pwyntiau llawn i'r Drenewydd gyda gôl wedi 70 munud.

Ond fe sgoriodd Geoff Kellaway yn y funud olaf i ennill pwynt i Aberystwyth.

Bangor 0-1 Airbus UK Brychdyn

Mae tîm ifanc Bangor yn cryfhau fesul gêm bron, ac er bod rhai wedi darogan y byddai'r tîm ar y brig yn rhoi cweir iddyn nhw nos Wener fe gafwyd gêm agos yn Stadiwm Book People.

Roedd un gôl yn ddigon i setlo'r mater, a Chris Budrys a'i cafodd wedi 51 munud i gadw Airbus ar frig y tabl am benwythnos arall.

Methodd Les Davies gic o'r smotyn i Fangor.