Gleision 19-15 Toulon

Rhys Patchell
Patchell: Cic gosb yn yr hanner cynta'

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn pencampwyr Ewrop yng Nghwpan Heineken.

Y sgôr hanner amser oedd 6-6 oherwydd ciciau cosb Patchell a Halfpenny.

Wedyn ciciodd Wilkinson ddwy gic gosb i'r Ffrancod cyn i Halfpenny gicio dwy. 12-12.

Cafodd Toulon gic gosb oherwydd taclo'r dyn heb y bêl a saethodd Wilkinson rhwng y pyst.

Gyda thair munud i fynd yn yr ail hanner sgoriodd y maswr Gareth Davies gais godidog yng ngysgod y pyst. Trosodd Halfpenny.

Roedd y Gleision yn gystadleuol ac yn dangos ymroddiad llwyr oedd wedi bod yn absennol mewn gemau blaenorol.

Cyn y gêm dywedodd y Cyfarwyddwr Rygbi Phil Davies: "Bydd digon o awyrgylch ... hon yw'r gêm gynta' yn y cwpan ar y cae newydd.

"Mae'n ddiwrnod mawr."

Hon oedd yr anrheg ben-blwydd ddelfrydol gan ei fod yn 50 oed.