Casnewydd 3-0 Caerefrog

Casnewydd
Image caption Funud cyn y diwedd sgoriodd Danny Crow y drydedd gôl

Roedd tân ym moliau chwaraewyr Casnewydd wrth drechu Caerefrog o 3-0.

Chris Zebroski daniodd yn gynta' wedi i ymdrech Conor Washington gael ei blocio.

Ar waetha' pwysau'r gwrthwynebwyr dyblodd Lee Minshull y fantais ychydig cyn yr egwyl.

Funud cyn y diwedd sgoriodd Danny Crow y drydedd gôl wedi cic rydd Robbie Willmott.