Dadlau dros broses dendro'r llywodraeth

Adeilad y Senedd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio fframwaith Llywodraeth y DU i gynnig rhai cytundebau sydd, meddai nhw, yn cynnig gwerth am arian

Mae wedi dod i'r amlwg fod cwmnïau ymchwil Cymreig yn methu a cheisio am waith gan Lywodraeth Cymru mewn rhai achosion.

Yn ôl manylion a ryddhawyd i Blaid Cymru drwy'r ddeddf rhyddid gwybodaeth, mae gweinidogion o dro i dro yn defnyddio proses dendro sydd ond yn cynnwys un cwmni o Gymru - gyda'r gweddill yn dod o du hwnt i Glawdd Offa.

Adran Fusnes San Steffan sy'n gyfrifol am y Fframwaith Ymchwil a Gwerthuso - rhestr o gwmnïau sy'n cael cystadlu am waith ymchwil Llywodraeth Prydain.

Ond mae Llywodraeth Cymru weithiau'n defnyddio'r fframwaith hefyd, er mai ond un cwmni Cymreig sy'n rhan ohono.

Os yw cwmni penodol yn rhan o'r fframwaith yna maen nhw'n cael clywed bob tro y mae gwaith ar gael i'w wneud ac yn medru cystadlu amdano. Os nad ydyn nhw'n rhan o'r fframwaith - yna fyddan nhw ddim yn clywed am y cyfleoedd hynny.

'Annerbyniol'

Mae Plaid Cymru nawr yn galw ar weinidogion i newid y ffordd maen nhw'n tendro am waith ymchwil.

Maen nhw wedi cyhuddo'r llywodraeth o "fethu â dilyn ei chyngor ei hun", a hwythau eu hunain yn annog cyrff cyhoeddus i wneud mwy i gefnogi busnesau Cymreig.

Dywed aelod cynulliad y blaid yng ngogledd Cymru, Llyr Gruffydd, fod y ffordd yma o gynnig contractau yn "annerbyniol".

"Mae'n sefyllfa gwbl hurt, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn mynd allan i dendro, yn gwahodd busnesau i gystadlu am waith, sydd ddim yn cynnwys busnesau o Gymru," meddai.

Hyd yma mae gwerth dros £800,000 o gytundebau gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru wedi'u cynnig i gwmniau o Loegr drwy'r broses.

Mae hyn yn cynnwys un cytundeb gwerth dros £170,000 i asesu defnydd o'r iaith Gymraeg mewn busnesau, ac un arall gwerth £30,000 i asesu cynllun oedd yn ceisio gwella'r ffordd mae cwmnïau yn tendro am waith yng Nghymru.

'Dim gwerth'

Tra bod cwmnïau o Gymru wedi methu a cheisio am y gwaith hynny, cafodd rhai eu defnyddio fel partneriaid wrth i gwmnïau o Loegr dderbyn y cytundeb ac wedyn cyflogi cwmnïau o Gymru i wneud rhan o'r gwaith.

Golygai hynny nad y cwmnïau Cymreig oedd yn derbyn yr holl dal am y gwaith, gan mai'r cwmnïau o Loegr oedd wedi derbyn y cytundeb yn wreiddiol.

Mae hynny'n fater sy'n pryderu Iestyn Davies, o Ffederasiwn y Busnesau Bach, a ddywedodd:

"Yn anffodus, dwi ddim yn synnu bod y math yma o fframwaith yn bodoli...Trwy osgoi fframwaith sy'n rhoi cyfle i fusnesau Cymreig, 'da chi ddim yn cael y gwerth hynny o'r cytundeb yn dod mewn i'r gymuned. 'Da chi ddim yn gweld gwerth a budd y gwariant cyhoeddus hynny yn cael ei adlewyrchu yn ehangach."

'Cyflym ac effeithiol'

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r mwyafrif helaeth o gytundebau gwaith ymchwil yn cael eu cynnig drwy broses dendro agored.

Dywed swyddogion fod y broses yn cynnig gwerth am arian, ac mai dim ond tua 10% o'u cytundebau sy'n mynd drwy'r fframwaith yma, a hynny am ei fod yn ffordd "gyflym ac effeithiol" o ddod o hyd i gwmni.

Ychwanegodd llefarydd ar eu rhan: "Rydym wedi ymrwymo i annog busnesau Cymreig a sefydliadau addysg uwch i elwa o gytundebau sector cyhoeddus. Rydym yn prynu'r rhan fwya' o'n gwaith ymchwil drwy broses dendro agored neu drwy ein fframwaith dendro ein hunain sy'n cynnwys nifer o fusnesau o Gymru.

"O bryd i'w gilydd rydym yn defnyddio fframwaith dendro sy'n cael ei defnyddio gan Lywodraeth y DU ar gyfer Busnes, Arloesedd a Sgiliau, sy'n cynnig gwerth da am arian. Er nad oes gennym reolaeth dros bwy sy'n cael y cytundebau, mae nifer o sefydliadau Cymreig wedi'u cyflogi fel is-gontractwyr i gwblhau'r gwaith."