Teithwyr am aros mewn maes parcio 'am ddiwrnod arall'

Carafanau ym maes parcio Ysbyty Brenhinol Gwent Image copyright Wales News Service
Image caption Mae'r teithwyr wedi'u gorchymyn i adael y safle erbyn 4:00yh ddydd Mawrth

Mae teithwyr o Ffrainc, sy'n rhwystro staff rhag parcio ger ysbyty, wedi cael gorchymyn i adael erbyn diwedd prynhawn dydd Mawrth.

Ond mae'r teithwyr yn mynnu y byddan nhw'n aros ar y safle am ddiwrnod arall.

Mae swyddogion y gwasanaeth iechyd wedi ysgrifennu at y teithwyr yn gofyn iddyn nhw symud eu carafanau o faes parcio Ysbyty Brenhinol Gwent erbyn 4:00yh ddydd Mawrth.

Mae nifer o lawfeddygon, meddygon a nyrsys wedi methu defnyddio'r maes parcio ers dydd Llun, gan bod teithwyr yn defnyddio 65 o safleoedd yno.

Mae'r teithwyr wedi dweud na fyddan nhw'n gadael tan ddydd Mercher.

Yn y cyfamser, mae'r ysbyty wedi bod yn cael cyngor cyfreithiol er mwyn ceisio symud y cerbydau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ysbyty nad yw'r sefyllfa wedi effeithio ar wasanaethau i gleifion.

Yn ôl swyddogion iechyd, maen nhw'n credu fod y teithwyr wedi dod i Gasnewydd ar gyfer angladd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.